CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi canllaw newydd i rieni a gwarcheidwaid
CGA yn cyhoeddi canllaw newydd i rieni a gwarcheidwaid

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Parentkind wedi cyhoeddi canllaw diwygiedig i gynorthwyo rhieni a gwarcheidwaid i chwarae rhan fwy gweithgar yn addysg eu plant. 

Mae’r canllaw’n darparu gwybodaeth a chyngor pwysig, gan gynnwys y gofynion ar ymarferwr addysg cofrestredig, a beth all rhieni a gwarcheidwaid ei wneud os bydd ganddynt bryder.

Daw cyhoeddi’r canllaw yn dilyn diwygiad i God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA yn 2022 – dogfen sy’n amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan ymarferwr addysg cofrestredig, yn y gwaith a’r tu hwnt. Rhaid i bob ymarferwr ymrwymo i gydymffurfio â’r Cod pan fydd yn cofrestru gyda CGA.

Yn sgil cyhoeddi’r canllaw, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn “Fel rhieni a gwarcheidwaid, rydym yn gwybod nad oes dim yn bwysicach i chi na diogelwch a lles eich plant.

“Mae’r canllaw hwn yn helpu rhieni a gwarcheidwaid i ddeall sut rydym ni, trwy reoleiddio, yn sicrhau eich bod chi a’ch plentyn yn cael y safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol uchaf gan ein cofrestreion.”

Cafodd y canllaw, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2019, ei ddiwygio’n llawn mewn partneriaeth â’r elusen ffederal genedlaethol, Parentkind.

Meddai Prif Weithredwr Parentkind, Jason Elsom, “Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan unwaith eto o’r canllaw hwn sy’n esbonio beth all rhieni ei ddisgwyl o’r bobl sy’n gweithio ym myd addysg, a sut gall Cyngor y Gweithlu Addysg gynnig cymorth.

“Mae rhieni’n gwybod pa mor galed y mae addysgwyr ledled Cymru’n gweithio. Mae’r canllaw hwn yn dwyn rhieni, addysgwyr a Chyngor y Gweithlu Addysg ynghyd i sicrhau bod ysgolion ledled Cymru yn elwa o weithlu o’r radd flaenaf.”

Mae’r canllaw ar gael i’w weld a’i lawrlwytho nawr trwy wefan CGA.