Ynglŷn â’r Cod
Daeth Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA i rym ar 1 Medi 2022. Mae’r Cod yn penodi'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan bersonau sydd wedi'u cofrestru gyda ni, a bwriedir iddo lywio ac arwain eu hymddygiad a’u dyfarniadau fel proffesiynolion sy’n gweithio ym maes addysgu a hyfforddiant yng Nghymru.
Wrth ddilyn y Cod, mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal y pum egwyddor allweddol, sef:
- Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
- Unplygrwydd Proffesiynol
- Cydweithio
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
- Dysgu Proffesiynol
Cafodd y Cod ei gymeradwyo yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd.
Rhoi’r Cod ar waith
Rydym hefyd wedi cynhyrchu posteri y gellir eu harddangos yn eich lleoliad.
Poster I’w arddangos i’r cyhoedd
Rydym wedi cyhoeddi cyfres o Ganllawiau Arfer Da sy’n ategu’r Cod. Maent yn cynnig cyngor defnyddiol pellach i gofrestreion o ran eu harfer o ddydd i ddydd. Darllenwch y canllawiau.
Mae ein
canllaw i rieni
yn darparu gwybodaeth a chyngor iddynt ar y gwasanaethau a ddarperir gennym ac yn eu helpu i chwarae rhan mwy gweithredol yn addysg eu plentyn.