CGA / EWC

About us banner
CGA yn croesawu categorïau cofrestru newydd
CGA yn croesawu categorïau cofrestru newydd

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi croesawu cyflwyno pedwar categori cofrestru newydd i'r Gofrestr o Ymarferwyr Addysg yng Nghymru.

Er mwyn gweithio fel ymarferydd addysg, mae'n rhaid i unigolion sy'n gweithio mewn rhai rolau fod wedi cofrestru gyda CGA.

Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023, (ddaeth i rym ddydd Llun 22 Mai 2023), yn ehangu cofrestru gyda CGA i gynnwys athrawon a staff cymorth yn y sector annibynnol. Mae hefyd yn golygu rheoleiddio ymarferwyr gwaith ieuenctid mewn unrhyw leoliad sy'n cynnwys darpariaeth gwaith ieuenctid, yn ogystal â'r gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid sy'n cael eu cyflogi, ac sy'n gweithio tuag at gymhwyster gwaith ieuenctid.

Dywedodd Eithne Hughes, Cadeirydd y Cyngor: "Mae'n egwyddor sefydledig yn y DU, a nifer o wledydd eraill ledled y byd, y dylid rheoleiddio proffesiynau lle mae gan y cyhoedd fudd dilys, a hynny er mwyn amddiffyn a diogelu'r 'defnyddwyr gwasanaeth' o dan sylw, yn ogystal â'r cyhoedd yn gyffredinol."

"Ble bynnag bo plant neu bobl ifanc yn cael eu haddysgu, dylai'r lefel o amddiffyniad, diogelu, ac ymrwymiad i safonau proffesiynol fod yr un fath. Ers nifer o flynyddoedd nawr, mae CGA wedi amlygu rhai anghysonderau a risgiau diogelu posibl sy'n codi o beidio rheoleiddio rhai ymarferwyr."

"Mae CGA yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd yma i fynd i'r afael â'r risgiau amlygwyd gennym yn flaenorol."

Swyddogaeth graidd CGA yw rheoleiddio ym mudd y cyhoedd. Mae'n cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy'n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid a dysgu yn y gweithle. Mae CGA yn cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, sy'n gosod y safon a ddisgwylir gan gofrestreion. Lle bo gofyn mae CGA hefyd yn ymchwilio i, a chlywed honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwyster proffesiynol difrifol, neu droseddau perthnasol.

I gael mwy o wybodaeth ar rôl CGA wrth gofrestru ymarferwyr, ewch i wefan CGA.