CGA / EWC

About us banner
Tymor newydd i Gyngor y Gweithlu Addysg
Tymor newydd i Gyngor y Gweithlu Addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg, heddiw (1 Ebrill 2023), wedi croesawu chwe aelod newydd wrth iddo dechrau tymor pedair blynedd newydd.

CGA yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, gan gwmpasu athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid/cymorth ieuenctid cymwysedig, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Mae aelodau ei Gyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl grwpiau cofrestreion ac maent yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol cyffredinol y sefydliad, ac am ei lywodraethu.

Penodwyd aelodau newydd y Cyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn dilyn proses recriwtio agored a theg. Bethan Thomas, Geraint Williams, Jane Jenkins, Kathryn Robson, Rosemary Jones OBE, a Theresa Evans-Rickards, yw’r rhain.

Mae’r garfan newydd yn ymuno â chwe aelod a ailbenodwyd a, gyda’i gilydd, nhw fydd yn llunio’r Cyngor newydd. Bydd tîm o staff CGA yn eu cefnogi, dan arweiniad Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn.

Meddai Hayden, wrth roi sylw ar y Cyngor newydd, “Hoffwn estyn croeso cynnes i aelodau newydd ein Cyngor a’r rhai sy’n ailymuno â ni am eu hail dymor.

“Mae aelodau ein Cyngor yn chwarae rôl mor werthfawr, nid yn unig wrth ddod â chymorth a chyfeiriad, ond craffu a her hefyd.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i gyd dros y pedair blynedd nesaf.”

Un o weithredoedd cyntaf y Cyngor newydd fydd ethol Cadeirydd newydd o blith ei aelodau.

Daw’r Cyngor newydd at ei gilydd ar gyfer ei gyfarfod cyntaf ddydd Iau, 20 Ebrill 2023. Gall aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno dod i gyfarfod y Cyngor gofrestru eu diddordeb trwy wefan CGA.

I gael mwy o wybodaeth am rôl aelodau’r Cyngor a CGA, ewch i’r wefan.