Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, gan gwmpasu athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid/gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig, ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith.
Sefydlwyd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014. Dan y Ddeddf, cafodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngAC) ei ad-drefnu a'i ailenwi i ddod yn Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Daeth CGA i fodolaeth ar 1af Ebrill 2015.
Beth yw CGA a beth ydym ni’n ei wneud?
Prif amcanion y Cyngor yw:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru;;
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon a'r personau sy'n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru; a
- diogelu lles dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Prif swyddogaethau CGA yw:
- sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg;
- cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg;
- ymchwilio i, a gwrando ar, honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol a allai fwrw amheuaeth ar briodoldeb ymarferydd i ymarfer;
- Achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon;
- darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill ynghylch materion sy'n gysylltiedig â'r gweithlu addysg ac addysgu a dysgu;
- monitro Sefydlu a gwrando ar apeliadau Sefydlu (lle y bo'n berthnasol) ar gyfer athrawon;
- hybu gyrfaoedd yn y gweithlu addysg; ac
- ymgymryd â gwaith penodol mewn perthynas ag addysgu a dysgu ar gais Llywodraeth Cymru.
Ariennir CGA gan ffioedd cofrestru ymarferwyr, ond mae'n derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau yr ymgymerir â hwy ar ei rhan, gan gynnwys:
- gweinyddu dyfarnu Statws Athro Cymwys (SAC);
- Trefniadau cyllido, olrhain a chofnodi ar gyfer Sefydlu;
- datblygu a chynnal y Pasbort Dysgu Proffesiynol;
- gwrando ar apeliadau Sefydlu a chyhoeddi tystysgrifau Sefydlu; a
- gweithredu fel ysgrifenyddiaeth annibynnol i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC)
Mae gan Gyngor y Gweithlu Addysg bedwar aelod ar ddeg. Penodir saith aelod yn uniongyrchol drwy system penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru a phenodir saith aelod yn dilyn enwebiadau gan ystod o randdeiliaid. Penodir aelodau'r Cyngor am gyfnod o bedair blynedd. Y Cyngor sy'n gosod cyfeiriad strategol ar gyfer CGA, ac ef sy'n gyfrifol am ei lywodraethu. Gallwch ddarllen rhagor am aelodau'r Cyngor yma.{/sliders}
Gallwch ddarllen am ein huwch dîm rheoli yma.
Mae CGA yn cyflogi rhyw 50 o staff.