CGA / EWC

About us banner
Defnyddia Dy Gymraeg
Defnyddia Dy Gymraeg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru i gymryd rhan yn  ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg.

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei harwain gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn alwad i weithredu ar sefydliadau ac unigolion i gofleidio a defnyddio’r Gymraeg yn eu rhyngweithio dyddiol. Boed hynny yn y cartref, yn y gwaith, wrth gymdeithasu, ac wrth ddefnyddio gwasanaethau.

Dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA, “Fel sefydliad cwbl ddwyieithog sy’n gweithredu yng Nghymru, rydym yn cydnabod cyfoeth diwylliannol ac arwyddocâd y Gymraeg.

“I bobl sydd eisiau cael mynediad i’n gwasanaethau, rydym yn ei gwneud yn flaenoriaeth bod ein gwybodaeth, ein cymorth a’n hadnoddau ar gael yn ddi-dor yn Gymraeg ac yn Saesneg.

“Fel cyflogwr, ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol sy’n parchu ac yn dathlu amrywiaeth ieithyddol ein staff, gan eu hannog i ddefnyddio eu Cymraeg trwy gydol eu diwrnod gwaith.”

Fel sefydliad sector cyhoeddus, mae’n ofynnol i CGA gydymffurfio â nifer o safonau’r Gymraeg. Gallwch ddarllen yr adroddiad monitro blynyddol diweddaraf ar y wefan, sy’n rhoi gwybodaeth am eu cydymffurfedd ac yn amlinellu sut y maent wedi gweithredu’r safonau.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau dwyieithog y mae CGA yn eu cynnig, ewch i’r wefan.