EWC Logo

About us banner
Safonau'r Gymraeg
Safonau'r Gymraeg

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â safonau newydd y Gymraeg. 

Mae’r safonau hyn yn gosod disgwyliadau clir arnom i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i’n cofrestreion, ein rhanddeiliaid a’r cyhoedd, a hyrwyddo’r defnydd ar y Gymraeg trwy ein holl wasanaethau.

Mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â 148 o safonau sy’n cwmpasu cyflenwi gwasanaethau, materion gweithredol, llunio polisïau a chadw cofnodion.

Darllenwch Safonau’r Gymraeg y mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â nhw .

Sut rydym ni’n cydymffurfio â’r safonau

Sut rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg

Rydym yn sefydliad cwbl ddwyieithog ac rydym yn annog ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid eraill i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â ni, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig. Mae sawl ffordd rydym yn gwneud hyn:

  • Rydym yn cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau’r Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg bob blwyddyn, gan hyrwyddo’n gwasanaethau Cymraeg trwy’r cyfryngau cymdeithasol
  • Mae ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu gweithredu’n ddwyieithog
  • Mae tudalen lanio’n gwefan yn rhoi dewis o ieithoedd i’r defnyddiwr bob tro y byddant yn mynd at ein gwefan
  • Mae ein gwefan ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae botwm toglo Cymraeg / Saesneg yn y gornel dde ar frig holl dudalennau ein gwefan, sy’n caniatáu i’r defnyddiwr newid iaith yn hawdd
  • Mae pob swydd wag yn cael ei hysbysebu’n Gymraeg ac mae ymgeiswyr yn gallu gwneud cais yn Gymraeg
  • Mae ein gwasanaeth ateb awtomataidd yn darparu dewis iaith i bob galwr
  • Rydym yn arddangos posteri “Iaith Gwaith” yn ein derbynfa
  • Caiff pob aelod staff Cymraeg ei iaith fathodyn neu laniard “Iaith Gwaith” i’w wisgo

Rydym hefyd yn annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol:

  • Rydym yn cyhoeddi e-gylchlythyr ‘Cymraeg ar waith’ chwarterol i’r holl staff i hyrwyddo’r defnydd ar y Gymraeg ar draws y sefydliad, ac i helpu sicrhau ein bod yn gweithredu Safonau’r Gymraeg yn gyson
  • Mae adran bwrpasol yng nghanllaw arddull CGA ar ddefnyddio’r Gymraeg yn gywir, gan gynnwys enwau lleoedd, sillafu a geirfa gywir, ac ymadroddion i’w hosgoi
  • Rydym wedi gosod pecyn meddalwedd Cysgliad ar gyfrifiaduron gweithwyr Cymraeg eu hiaith a rhaglen 'To Bach' ar bob cyfrifiadur
  • Mae holl bolisïau, gweithdrefnau ac arweiniad staff ar gael i staff yn Gymraeg yn llyfrgell y staff
  • Rydym yn llwyr gefnogi hyfforddiant Cymraeg perthnasol i bob gweithiwr

Adroddiad monitro blynyddol

Bob blwyddyn, rydym yn llunio adroddiad monitro blynyddol sy’n darparu gwybodaeth am ein cydymffurfiaeth â’r safonau, ac yn amlinellu sut y gwnaethom weithredu’r safonau.

Darllenwch ein hadroddiad monitro safonau’r Gymraeg ar gyfer 2022-23.

Gwneud cwyn

Gallwch gwyno i ni os byddwn yn methu darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os na fyddwch yn fodlon â safon y gwasanaeth Cymraeg a ddarparwn. 

Hefyd, gallwch gwyno wrth Gomisiynydd y Gymraeg.

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am ein darpariaeth ddwyieithog, a’n hymagwedd at y Gymraeg. Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i roi eich adborth i ni.