CGA / EWC

About us banner
Fframwaith newydd i gefnogi ymarferwyr AB, DSW ac addysg oedolion
Fframwaith newydd i gefnogi ymarferwyr AB, DSW ac addysg oedolion

Mae fframwaith dysgu a datblygiad proffesiynol newydd i ymarferwyr mewn addysg bellach (AB), dysgu seiliedig ar waith (DSW) ac addysg oedolion wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r fframwaith yn dod ag ystod o gyngor, arweiniad ac offer at ei gilydd i gefnogi ymarferwyr ar eu taith ddysgu broffesiynol, gan gynnwys:

  • safonau proffesiynol cyfredol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr DSW ac ymarferwyr addysg oedolion
  • safonau proffesiynol newydd ar gyfer staff cymorth AB a DSW
  • offeryn rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio sut olwg allai fod ar y safonau ar lefelau ymarfer gwahanol – archwilio, ymgorffori a gweddnewid

Datblygwyd yr adnodd i ymateb i ganfyddiadau’r Astudiaeth gwmpasu dysgu proffesiynol ôl-16 (a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru), yr oedd llawer ohono’n canolbwyntio ar yr angen am fframwaith tebyg i ddod â’r agweddau amrywiol ar ddysgu proffesiynol at ei gilydd.

Wrth gyhoeddi’r lansiad, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae’n bleser gennyf lansio’r hwb datblygiad proffesiynol, a fydd yn dod â gwybodaeth ac arweiniad ynghyd ar bopeth o’r cymwysterau cychwynnol sydd eu hangen, i sut i ddatblygu gyrfa yn y sector ôl-16. Mae’r safonau hyn yn cynnig glasbrint ar gyfer rhagoriaeth. Nid safonau Llywodraeth Cymru yn unig ydynt. Maent yn perthyn i’r gweithlu – wedi’u llunio gan y sector, wedi’u llywio gan y sector.”

Ariannwyd y fframwaith gan Lywodraeth Cymru ac fe’i datblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar y cyd â’r sectorau AB, DSW ac addysg oedolion.

Dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA: “Mae cyhoeddi’r fframwaith hwn yn dilyn cydweithio ac ymgysylltu’n helaeth â’r sector, llunio’r cynnwys a cheisio barn ac adborth y rhai y mae wedi’i fwriadu i’w cefnogi.

“Fel rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol y gweithlu addysg yng Nghymru, rydym yn ymrwymo i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau ymhlith ein cofrestreion. Mae’r adnoddau hyn yn arf hanfodol o ran helpu i gyflawni hyn a bydd, heb os, yn parhau i esblygu a datblygu dros y blynyddoedd i fodloni anghenion cyfnewidiol y rhai sy’n gweithio mewn addysg ôl-16.”

Mae’r holl adnoddau i’w gweld ar wefan Addysgwyr Cymru.