CGA / EWC

About us banner
Derbynwyr diweddaraf dyfarniad ieuenctid
Derbynwyr diweddaraf dyfarniad ieuenctid

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru, gyda'r ddau yn derbyn y wobr aur.

Wedi ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae MAGI yn wobr genedlaethol sy'n cefnogi a chydnabod bod safonau'n gwella o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. I gael achrediad, mae'n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

Wrth gael y MAGI aur, mae'r ddau sefydliad wedi dangos cryfder cydweithio gyda phartneriaid, defnyddio gwybodaeth rheoli, a defnyddio adnoddau i fodloni anghenion pobl ifanc mewn modd creadigol. Mae hefyd yn cydnabod a dathlu cyraeddiadau pobl ifanc, a'r effaith mae gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid wedi ei gael ar eu siwrneiau personol.

Wrth gyflwyno'r wobr i'r tîm yng Nghonwy, dywedodd Swyddog Datblygu'r Marc Ansawdd CGA, Andrew Borsden, "Mae hi'n bleser dathlu'r sefydliadau yma'n cynyddu i'r wobr aur. Mae'r ddau yn dod ag ymagwedd newydd i waith ieuenctid yng Nghymru, gan fodloni anghenion pobl ifanc yn eu cymunedau.

"Mae'r holl staff yn ysbrydoledig, brwdfrydig, a gafaelgar, ac yn ddeiliaid teilwng y Marc Ansawdd. Llongyfarchiadau enfawr i bawb."

Mae mwy o wybodaeth am ddod yn aseswr, ac am y MAGI yn gyffredinol ar wefan CGA.