CGA / EWC

About us banner
Cydnabyddiaeth fawreddog i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd
Cydnabyddiaeth fawreddog i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Cyhoeddwyd mai Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yw’r diweddaraf i dderbyn y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, gan dderbyn y dyfarniad arian.

Mae’r Marc Ansawdd, a weinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg, yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod gwelliant mewn safonau darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. Er mwyn ennill yr achrediad, rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a phasio asesiad allanol.

Wrth gyflawni’r dyfarniad arian, dangosodd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd eu bod yn hyrwyddo arfer cynhwysol, yn dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn cynllunio’u darpariaeth i fodloni anghenion pobl ifanc, yn sicrhau bod gweithgareddau’n cael effaith ar bobl ifanc a’u deilliannau, a bod eu gwasanaethau’n cael eu darparu gan weithlu â phrofiad a chymwysterau priodol, sy’n cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.

Meddai James Healan, Prif Swyddog Ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, “Mae’r dyfarniad hwn yn dangos ymrwymiad Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i wella a dysgu wrth iddo ddarparu cymorth i bobl ifanc ledled Caerdydd.

“Mae’r bobl ifanc yn rhan annatod o’r gwasanaeth ac yn parhau i gynnig cipolygon gwerthfawr i’r cymorth sydd ei angen arnynt. Rydyn ni’n falch bod pobl ifanc yn helpu i lywio’r gweithgareddau a’r cyfleoedd rhagorol rydyn ni’n eu darparu.”

Ac yntau’n siarad ar ran y tîm asesu, meddai Swyddog Datblygu CGA ar gyfer y Marc Ansawdd, Andrew Borsden, “Roedd rhan weithgar Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn statws Caerdydd: Dinas sy’n Dda i Blant wedi creu argraff fawr ar aseswyr y Marc Ansawdd. Roedd hi’n galonogol iawn gweld pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cynllunio gweithgareddau ac mewn rolau arwain. Fe wnaethant nodi hefyd fod defnyddio technolegau digidol yn ysbrydoledig ac yn greadigol iawn.

“Llongyfarchiadau i’r tîm cyfan ar y wobr haeddiannol iawn hon.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, gan gynnwys sut y gall eich sefydliad wneud cais, ewch i wefan CGA.