CGA / EWC

About us banner
CGA yn lansio ymgynghoriadau ar gynlluniau drafft
CGA yn lansio ymgynghoriadau ar gynlluniau drafft

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio dau ymgynghoriad heddiw (12 Chwefror 2024), yn ceisio barn ar eu Cynllun Strategol drafft 2024-27, a'u Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28.

Mae'r Cynllun Strategol drafft 2024-27 yn gosod blaenoriaethau CGA am y tair blynedd nesaf. Mae wedi ei gefnogi gan bedwar prif amcan, ac yn atgyfnerthu gweledigaeth CGA i fod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gellid ymddiried ynddo, sy'n gweithio ym mudd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru.

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 wedi ei hysbysu gan fewnwelediad gan nifer o grwpiau ac unigolion. Mae'n gosod ymrwymiad CGA i gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, ac yn esbonio sut byddant yn hyrwyddo'r egwyddorion yma o fewn y sefydliad, ac (o fewn eu cylch gwaith), i'r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriadau hyn o ddiddordeb penodol i gofrestreion, aelodau'r cyhoedd, a rhanddeiliaid addysg. Hoffai'r CGA glywed gan unigolion a sefydliadau. Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a'u hystyried cyn cyhoeddi’r cynlluniau terfynol.

Gallwch roi eich adborth nawr. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw canol dydd Llyn, 25 Mawrth 2024.