CGA / EWC

About us banner
Rhyddhau canlyniadau arolwg AB/DSW 2023
Rhyddhau canlyniadau arolwg AB/DSW 2023

Mae canfyddiadau Arolwg y Gweithlu Addysg Bellach a Dysgu'n Seiliedig ar Waith 2023 wedi eu rhyddhau heddiw (30 Mehefin 2023).

Hwyluswyd yr arolwg gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a'i gynnal ar ân y grŵp llywio pwysau gwaith cenedlaethol (wedi ei wneud o gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cyd-Undebau Llafur Cymru, a Colegau Cymru).

Yn Arolwg y Gweithlu Addysg 2021 nodwyd pryderon pwysau gwaith fel ystyriaeth gyffredin a godwyd. Er hynny mae'r grŵp llywio pwysau gwaith cenedlaethol wedi bod yn ymgymryd â gwaith i fynd i'r afael â'r pryderon hynny. Ymgymerwyd â'r arolwg i helpu asesu'r cynnydd a wnaed hyd heddiw.

Roedd y rheiny a ofynnwyd i ymateb i'r arolwg (fel cytunwyd gan y grŵp llywio) yn athrawon, gweithwyr cymorth dysgu, a staff cymorth busnes addysg bellach, yn ogystal ag ymarferwyr dysgu’n seiliedig ar waith. Mae gofyn iddynt oll, heblaw'r staff cymorth busnes, gofrestru gyda CGA.

Mae'r adroddiad llawn bellach ar gael ar wefan CGA.