CGA / EWC

About us banner
Dewch i siarad gyda CGA yr haf yma
Dewch i siarad gyda CGA yr haf yma

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)  yn paratoi i fynd i nifer o ddigwyddiadau a gwyliau ledled Cymru yr haf yma, sy'n gyfle gwych i gofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, a rhanddeiliaid eraill i ddysgu mwy am y rheoleiddir annibynnol, proffesiynol.

Rhwng Mai ac Awst 2024, bydd CGA yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd, Pride Cymru, MELA Caerdydd, Tafwyl, y Sioe Fawr, a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd mynychwyr yn gallu siarad gyda'r tîm am ei gyfrifoldebau rheoleiddiol, y gwahanol adnoddau sydd ar gael i gefnogi cofrestreion a'r cyhoedd, gyrfaoedd mewn addysg, datblygiad proffesiynol, a llawer mwy.

Dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn  "Fel rheoleiddiwr, mae'n bwysig bod cofrestreion ac aelodau'r cyhoedd yn gallu siarad gyda ni am ein rôl a'n cylch gwaith.

"Byddwn yn annog y rheiny sy'n mynd i'r digwyddiadau i ddod draw i'n stondin i ddweud helo wrth y tîm, fydd yn gallu siarad gyda chi am y gwaith ry'n ni'n ei wneud i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, tra'n cynnal proffesiynoldeb a gwella safonau o fewn y gweithlu."

Bydd manylion penodol am bob digwyddiad ar gael ar sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn ac yn ystod y digwyddiadau.