CGA / EWC

About us banner
Cydnabod rhagoriaeth sefydliadau ieuenctid
Cydnabod rhagoriaeth sefydliadau ieuenctid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a Vibe Youth wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru.

Wedi ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae MAGI yn wobr genedlaethol sy'n cefnogi a chydnabod bod safonau'n gwella o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. I gael achrediad, mae'n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunan-asesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

Dewi Thomas (asesydd MAGI), Ian Price, Jake Henry a Karen Henry (Vibe Youth), Hayden Llewellyn (CGA), Lewis Jones (Vibe Youth), Andy Borsden (CGA), Donna Robins (Llywodraeth Cymru)I gael gwobr efydd MAGI, dangosodd Vibe Youth bod ganddynt arweinyddiaeth a llywodraethiant priodol, prosesau monitro a gwerthuso effeithiol, eu bod yn ddiogel, ac yn ymddwyn o fewn fframwaith o bolisïau cyfreithiol. Fe wnaethant hefyd ddangos eu bod yn amgylchedd diogel a chroesawgar i bobl ifanc sy'n gallu cael mynediad at staff a gwirfoddolwyr medrus, y maent yn gallu ymddiried ynddynt.

Dywedodd Jacob Henry, Prif Swyddog Gweithredu a chyd-sefydlydd Vibe Youth, "Rydym yn falch i fod wedi cael y Marc Ansawdd efydd.

"Mae'r wobr hon yn amlygu'r effaith a phwysigrwydd gwaith ieuenctid yng Nghymru. Fel sefydliad bychan, lleol, ry'n ni wedi dangos fod gennym y strwythurau cywir, a pholisïau cadarn yn eu lle, yn unol â fframweithiau lleol a chenedlaethol.

Wrth gael y Marc Ansawdd aur, mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi dangos cryfder cydweithio gyda phartneriaid, defnyddio gwybodaeth rheoli, a defnyddio adnoddau i fodloni anghenion pobl ifanc mewn modd creadigol. Mae hefyd yn cydnabod a dathlu cyraeddiadau pobl ifanc, a'r effaith mae gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid wedi ei gael ar eu siwrneiau personol.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, yr Aelod Cabinet yn gyfrifol am Wasanaeth Ieuenctid Conwy, "Rwyf wrth fy modd bod y staff ymroddgar yng Ngwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi cael y statws aur yma. Mae cael, efydd, arian a nawr yr aur yn tystio i sgil, profiad a phroffesiynoldeb y tîm.

Dywedodd Swyddog Datblygu CGA ar gyfer MAGI, Andrew Borsden, "Hoffwn longyfarch Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, a Vibe Youth ar gael y Marciau Ansawdd aur ac efydd.

"Mae'n gyrhaeddiad gwych, sy'n cydnabod y gwaith caled a'r ymroddiad yr ydych i gyd yn ei wneud bob dydd i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru. Llongyfarchiadau i bawb."

Mae CGA yn recriwtio aseswyr MAGI ar hyn o bryd. Does dim angen unrhyw gymwysterau penodol i fod yn asesydd, ond mae'n helpu os ydych yn frwdfrydig am ddathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru, a diddordeb mewn sicrhau ansawdd.

Mae mwy o wybodaeth am ddod yn aseswr, ac am y MAGI yn gyffredinol ar wefan CGA.