CGA / EWC

About us banner
Safonau arweinyddiaeth newydd ar gyfer y gweithlu ôl-16
Safonau arweinyddiaeth newydd ar gyfer y gweithlu ôl-16

Mae set newydd o safonau arweinyddiaeth proffesiynol wedi eu cyhoeddi ar gyfer gweithlu ôl-16 Cymru.

Mae'r safonau, oedd yn gynwysedig yn y Fframwaith Dysgu a Datblygu Proffesiynol a lansiwyd yn ddiweddar, yn hyrwyddo proffesiynoldeb arweinwyr yn y sector ac yn rhoi fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhau trwy fyfyrio a chydweithio.

Mae'r fframwaith, a gyllidir gan Llywodraeth Cymru, a'i ddatblygu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), ar y cyd gyda'r sectorau addysg bellach (AB), dysgu'n seiliedig ar waith (DSW), ac addysg oedolion.

Mae'r fframwaith, lansiwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Gorffennaf, yn dod â chyngor, canllawiau a theclynnau ynghyd i gefnogi ymarferwyr ar eu taith ddysgu broffesiynol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • safonau proffesiynol wedi eu diweddaru i athrawon AB, ymarferwyr DSW, ac ymarferwyr dysgu oedolion
  • safonau proffesiynol newydd ar gyfer staff cymorth ac arweinwyr AB a DSW, ac arweinwyr AB a DSW
  • teclyn rhyngweithiol sy'n caniatáu i chi archwilio sut allai'r safonau edrych ar wahanol lefel o ymarfer - archwilio, mewnosod a thrawsnewid
  • safonau proffesiynol newydd ar gyfer arweinwyr yn gweithio mewn addysg ôl-16

Cafodd ei greu mewn ymateb i ganfyddiadau Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol Ôl-16, oedd yn canolbwyntio ar yr angen am fframwaith o'r fath i ddod ag agweddau amrywiol dysgu proffesiynol ynghyd.

Dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA "Ry'n ni'n falch bod safonau ar gyfer arweinwyr a staff cymorth yn y sector ôl-16 ar gael nawr fel y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr DSW a dysgu oedolion.

"Maen nhw wedi eu creu ar y cyd gydag ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, ac wedi eu creu i roi'r sgiliau a'r cymhwysedd angenrheidiol iddynt i lywio'r dirwedd sy'n prysur newid yn y sector."

Mae'r holl adnoddau ar wefan Addysgwyr Cymru.