CGA / EWC

About us banner
Newidiadau cofrestru i weithlu addysg Cymru
Newidiadau cofrestru i weithlu addysg Cymru

Bydd nifer o newidiadau’n dod i rym i’r rhai sy’n gweithio mewn addysg bellach (AB) a dysgu oedolion ar draws Cymru.

Bydd y newid cyntaf yn gofyn bod y canlynol yn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) cyn iddynt ddechrau gweithio:

  • pobl sy’n gweithio fel pennaeth, neu uwch arweinydd (sy’n rheoli dysgu ac addysgu yn uniongyrchol), mewn addysg bellach
  • ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned (a gyflogir gan awdurdod lleol)

Bydd yr ail newid yn cyflwyno cymwysterau gofynnol i’r rhai sy’n gweithio fel athrawon AB ac ymarferwyr dysgu oedolion.

Mae’r newidiadau’n dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd, gan Lywodraeth Cymru, rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2023. Byddant yn helpu i gau anghysondebau yn y ddeddfwriaeth bresennol.

Er mwyn gweithio fel ymarferydd addysg yng Nghymru, mae’n rhaid i unigolion sy’n gweithio mewn rolau penodol gofrestru gyda CGA, yn y lle cyntaf. Fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, mae’r newidiadau hyn yn rhoi cylch gwaith ehangach i CGA ddiogelu dysgwyr, pobl ifanc a rhieni/gwarcheidwaid, gan gynnwys ffydd a hyder y cyhoedd ar yr un pryd.

Meddai Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA, “Mae cofrestru a chymwysterau gofynnol yn arfer cyffredin mewn proffesiynau rheoledig, gan gynnwys meddygaeth, y gyfraith a gwaith cymdeithasol. Mae’n golygu mai dim ond y rhai sy’n cynnal safon uchel o ymddygiad ac sy’n gymwys, yn wybodus ac yn fedrus, sy’n gallu gweithio mewn rolau penodol.

“Mae CGA yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd hon i fynd i’r afael â’r anghysondebau a amlygom yn flaenorol, gan gydnabod hefyd fod gwaith i’w wneud o hyd.”

Bydd CGA yn cysylltu â phobl sy’n gorfod cofrestru o dan y newidiadau, maes o law, ac nid oes angen iddynt wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Bydd mwyafrif yr unigolion yn cael eu cofrestru’n awtomatig drwy eu cyflogwr.

Os hoffech ddysgu rhagor o wybodaeth am gofrestru gyda CGA, ewch i’r wefan.