CGA / EWC

About us banner
CGA yn arwyddo addewid gwrth-hiliaeth
CGA yn arwyddo addewid gwrth-hiliaeth

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cadarnhau ei safbwynt ar hiliaeth drwy arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru.

Drwy ymuno gyda dros 1,500 o sefydliadau ac unigolion sydd wedi arwyddo'r addewid, mae CGA yn ymrwymo i:

  • gymryd safiad yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysfawr a chydradd i bawb
  • peidio â goddef rhagfarn hiliol, gwahaniaethau, aflonyddu, erledigaeth, camdriniaeth neu drais yn erbyn unrhyw unigolyn
  • sefyll mewn undeb, dod ynghyd, a dweud na wrth hiliaeth ym mhob ffurf
  • hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol
  • hyrwyddo cyfleoedd cydradd a theg i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol i gael dyrchafiad
  • gwaredu ar wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth a thrais hiliol anghyfreithiol

Fel y rheoleiddir annibynnol proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, a chyflogwr, mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i'n gwaith ac i ddiwylliant y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu a chefnogi ymdriniaeth gwrth-hiliol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r sefydliad wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau'n canolbwyntio ar symud o Gymru an-hiliol i Gymru wrth-hiliol, yn ogystal â chanllaw arfer da ar fynd i'r afael â hiliaeth mewn lleoliadau addysg.

Bwriad y canllaw, gafodd ei gefnogi'n ffurfiol gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, a BAMed Cymru, yw cefnogi cofrestreion i ddeall sut mae eu hymddygiadau a'u harfer yn gallu helpu creu amgylcheddau cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr a phobl ifanc.

Dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA, ar ôl arwyddo'r addewid "Fel sefydliad, ry'n ni wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb o fewn y sector ac, fel cyflogwr, i arfer tegwch ac amrywiaeth.

"Drwy arwyddo'r addewid, ynghyd â'n hamcanion yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, rydym yn parhau i fewnosod gwrth-hiliaeth yn ein sefydliad, a thrwy’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru."

I gael mwy o wybodaeth am sut mae CGA  yn gweithio tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, ewch i'r wefan.