CGA / EWC

About us banner
Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol: hyrwyddo ecwiti hiliol mewn addysg
Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol: hyrwyddo ecwiti hiliol mewn addysg


mewn cydweithrediad â BAMEed Network Wales and Educators Wales

Educators Wales logo 72dpi

BAMEed Wales LOGO solid

  25 Tachwedd 2021, 9:30am-12:30pm


Ar 25 Tachwedd 2021, cynhaliodd CGA ddigwyddiad ar-lein oedd yn rhoi cyfle i broffesiynolion addysg ddysgu am ffyrdd i hyrwyddo ecwiti hiliol a rhoi ymarfer cynhwysol a gwrth-hiliol ar waith yn eu lleoliadau.

Wedi'i cyd-gadeirio gan Dr Susan Davis a Chantelle Haughton o BAMEed Network Wales roedd y digwyddiad yn archwilio'r gwaith ysbrydoledig ac arloesol sy'n cael ei wneud ledled Cymru i:

  • integreiddio profiadau bywyd a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cwricwlwm newydd
  • cefnogi addysgwyr i ddelio â materion yn ymwneud â hil
  • gweithio tuag at amrywio'r gweithlu addysg; a
  • hyrwyddo newid diwylliannol cadarnhaol ac ymarfer gwrth-hiliol ar draws lleoliadau addysg.

Wedi'i gynnal ar y cyd â BAMEed Network Wales, roedd y digwyddiad tair awr yn cynnwys cyweirnod gan yr Athro Charlotte Williams OBE, a sgwrs hynod ddiddorol gyda Sathnam Sanghera, awdur y gwerthwr gorau The Boy with the Topknot. Roedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau pwerus gan Uzo Iwobi OBE, Abu-Bakr Madden Al-Shabazz,  Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac Ysgol Gynradd Mount Stuart.

Bydd y digwyddiad hwn yn hysbysu datblygiad cyfres o sesiynau hwyrnos a gynhelir ar ddechrau 2022.

Lawrlwythiadau

Sleidiau'r digwyddiad (PDF)

Digwyddiadau blaenorol