CGA / EWC

About us banner
Sefydliadau ieuenctid yn cael cydnabyddiaeth am eu rhagoriaeth
Sefydliadau ieuenctid yn cael cydnabyddiaeth am eu rhagoriaeth

Cyhoeddwyd mai Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru a Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd yw enillwyr diweddaraf y Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) sy’n gweinyddu’r cynllun, ac mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (y Marc Ansawdd) yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod gwella safonau yn narpariaeth, arferion a pherfformiad sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. Er mwyn derbyn yr achrediad, rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a phasio asesiad allanol.

Er mwyn cyflawni’r Marc Ansawdd Efydd, roedd yn ofynnol i’r ddau sefydliad ddangos eu bod yn cynnwys y blociau adeiladu ar gyfer gwaith ieuenctid o ansawdd uchel wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl ifanc wrth lunio eu gwasanaethau, dealltwriaeth dda o anghenion y bobl ifanc y maent yn gweithio â nhw, a chael polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar waith i ddarparu gwasanaeth diogel.

Dywedodd Bethan Wilson a Maria Springer o Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru, ‘‘Roedd y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn ffordd wych i Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru adolygu, myfyrio a dathlu’r gwaith gwych rydym yn ei wneud i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru.’’

Dywedodd Bethan Allan, Rheolwr Tîm â’r Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae yng Nghyngor Dinas Casnewydd, “Rwy’n falch dros ben bod Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd wedi ennill y Marc Ansawdd Efydd, mae’n dyst i waith caled yr holl weithwyr ieuenctid a’r bobl ifanc sydd gennym yng Nghasnewydd.

“Edrychwn ymlaen at ddechrau ein taith tuag at ddyfarniad Arian.”

Dywedodd Andrew Borsden, Swyddog Datblygu CGA ar gyfer y Marc Ansawdd, “Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i Ymddiriedolaeth y Tywysog ac i Wasanaeth Ieuenctid Casnewydd ar gyflawni’r Marc Ansawdd Efydd.

“Mae’n gyflawniad rhagorol sy’n cydnabod eich gwaith caled a’ch ymrwymiad beunyddiol i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru. Da iawn chi i bawb fu’n cymryd rhan.”

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am ba sefydliadau sy’n dal Marc Ansawdd, a sut y gall eich sefydliad wneud cais i gael ei achredu, ewch i wefan CGA.