CGA / EWC

About us banner
Derbynwyr diweddaraf gwobr ieuenctid
Derbynwyr diweddaraf gwobr ieuenctid

Mae ProMo Cymru, Youth Cymru a YMCA Abertawe wedi eu cyhoeddi fel derbynwyr diweddaraf Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru.

ProMo Cymru yw’r sefydliad diweddaraf i gael gwobr efydd, mae Youth Cymru wedi cael y wobr efydd ac arian, ac mae YMCA wedi derbyn y wobr arian.

Wedi ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae MAGI yn wobr genedlaethol sy'n cefnogi a chydnabod bod safonau'n gwella o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. I gael achrediad, mae'n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunan-asesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

I gael gwobr efydd dangosodd y sefydliadau bod ganddynt arweinyddiaeth a llywodraethiant priodol, prosesau monitro a gwerthuso effeithiol, eu bod yn ddiogel, ac yn ymddwyn o fewn fframwaith o bolisïau cyfreithiol. Fe wnaethant hefyd ddangos eu bod yn amgylchedd diogel a chroesawgar i bobl ifanc sy'n gallu cael mynediad at staff a gwirfoddolwyr medrus, y maent yn gallu ymddiried ynddynt.

Wrth gael y wobr arian, dangosodd Youth Cymru a YMCA Abertawe ye bod yn hyrwyddo arfer cynhwysol, yn dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn cynllunio eu darpariaeth i fodloni anghenion pobl ifanc, yn sicrhau bod gweithgareddau yn gwneud effaith ar bobl ifanc a’u deilliannau, ac yn darparu gwasanaethau drwy weithlu sydd â phrofiad priodol, ac sy’n gymwys, ac yn cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.

Dywedodd Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo Cymru, “Ry’n ni’n falch iawn o’r bobl ifanc sy’n gweithio gyda ni, ein staff, ac o gael y Marc Ansawdd efydd. Mae’r broses wedi helpu’n llywio ni tuag at y dyfodol.”

Dywedodd Swyddog Datblygu CGA ar gyfer MAGI, Andrew Borsden, "Hoffwn longyfarch y tri sefydliad ar eu gwobrau diweddar.

"Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod yn swyddogol y gwaith caled ac ymrwymiad staff yr holl sefydliadau o ddydd i ddydd i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru. Llongyfarchiadau i bawb."

Mae CGA yn recriwtio aseswyr MAGI ar hyn o bryd. Does dim angen unrhyw gymwysterau penodol i fod yn asesydd, ond mae'n helpu os ydych yn frwdfrydig am ddathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru, a diddordeb mewn sicrhau ansawdd.

Mae mwy o wybodaeth am ddod yn aseswr, ac am y MAGI yn gyffredinol ar wefan CGA.