CGA / EWC

About us banner
‘Cymryd Saib wrth Addysgu’: datblygu arfer myfyrio wrth weithredu ymhlith athrawon dan hyfforddiant
‘Cymryd Saib wrth Addysgu’: datblygu arfer myfyrio wrth weithredu ymhlith athrawon dan hyfforddiant

Gan Dr Russell Grigg, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon a Dr Helen Lewis, Cyfarwyddwr Rhaglen Gynradd TAR.

Mae eleni’n nodi 40 mlynedd ers cyhoeddi llyfr dylanwadol Donald Schön, ‘The Reflective Practitioner: How Professionals Think in Action’, sydd wedi llywio cynllunio rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru a thu hwnt. Un o gysyniadau mwyaf heriol Schön yw myfyrio wrth weithredu, a ddisgrifir yn gyffredin fel meddwl ar eich traed yn ystod gwersi. Mae hyn yn anodd, hyd yn oed i athrawon mwy profiadol. Ond mae’n bwysig oherwydd bod y gallu i feddwl yn hyblyg a gwneud newidiadau priodol yn ystod gwersi yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r hyn y mae athrawon dan hyfforddiant a phlant yn ei ddysgu, a pha mor dda y maent yn dysgu.

Braslun Cysyniadol ar gyfer PIT Stop (yn Saesneg)Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi treialu model yn ddiweddar ymhlith ein hathrawon dan hyfforddiant TAR cynradd i gefnogi’r math hwn o fyfyrio wrth weithredu. Caiff ei lywio gan waith arloesol Schön, yn ogystal ag ystod o ddamcaniaethau a chysyniadau eraill.

Ystyr PIT Stop yw adborth Cywir (Precise), Craff (Insightful) ac Amserol (Timely) (disgrifiad arall gan un o’n hathrawon dan hyfforddiant oedd Cymryd Saib wrth Addysgu). Ceir yr adborth hwn ar ffurf sgyrsiau dysgu yn ystod gwers rhwng y mentor arsylwi a’r mentorai, mae’n cymryd 30-60 eiliad bob tro, ac mae’n digwydd ddwywaith yn ystod gwers. Caiff un saib ei alw gan y mentor ac mae’n canolbwyntio ar darged y cytunwyd arno neu a ‘gontractiwyd’ ymlaen llaw, a’r llall gan athrawon dan hyfforddiant ynghylch unrhyw beth sy’n eu synnu neu’n achosi penbleth iddynt. Yn olaf, mae trafodaeth ar ôl y wers yn myfyrio ar effaith y sgyrsiau hyn.

Roedd y cynllun peilot yn cynnwys carfan o 20 o athrawon dan hyfforddiant TAR cynradd ac un athro dan hyfforddiant uwchradd. Cynhaliwyd eu hymarfer mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, gyda phob athro dan hyfforddiant yn cael ei arsylwi unwaith gan uwch fentor hyfforddedig. Cafodd y sesiynau eu ffilmio ac wedyn eu rhannu er mwyn cael sylwadau gyda’r mentoriaid a’r athrawon dan hyfforddiant. Mae PIT Stop yn ategu, yn hytrach na disodli, dau arsylwad gwersi confensiynol, ffurfiol.

Roedd y canfyddiadau yn gadarnhaol dros ben. Roedd yr holl athrawon dan hyfforddiant yn cytuno’n gryf bod y model yn ychwanegu gwerth at eu hymarfer a chrynhodd pob un eu meddyliau mewn tri gair.

Cwmwl geriau

 

 

 

 

 

Yn benodol, roedd yr athrawon dan hyfforddiant yn pwysleisio manteision cael adborth craff, ffurfiannol a gweithredadwy wrth iddynt addysgu:

‘...yr hyn a’i gwnaeth yn dda ac yn ddefnyddiol iawn oedd bod modd ei gyflawni’ (Hollie).

‘Rwy’n meddwl bod cael yr adborth hwnnw, a gweithredu arno wedyn, yn eich helpu i amgyffred y wybodaeth yn well, rwy’n meddwl, na’r arsylwi traddodiadol [pan] rydych chi’n cael eich adborth ar y diwedd’ (Laura).

‘Oherwydd y ffordd y mae’r model PIT Stop yn gweithio, rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth sy’n fwy naturiol. Rydych chi’n cofio’r adborth a’r gweithredu yn hytrach na’r adborth ar ôl gweithredu’ (Rebekah).

Gellir disgrifio adborth gan fentoriaid yn PIT Stop 1 fel rhoi cyngor, yn debyg i hyfforddiant, sy’n ddatblygiadol briodol yn ein barn ni. Derbyniodd yr arsylwyr hyfforddiant ar y model a sut i ddarparu adborth cryno â ffocws.

Roedd athrawon dan hyfforddiant yn tueddu i ddefnyddio PIT Stop 2 i ‘wirio’ a chael sicrwydd eu bod ar y trywydd cywir. Mewn rhai achosion, manteisiodd yr athrawon dan hyfforddiant ar y cyfle i esbonio eu penderfyniadau. Roedd Rebekah yn un o’r ychydig a gymerodd ran yn y math o gwestiynu myfyriol a chyfleu arbrofi a ragwelodd Schön. Ar ôl synnu nad oedd ei gwers yn mynd yn unol â’r cynllun, galwodd am PIT Stop er mwyn esbonio ei bod ar fin newid cyfeiriad. Mae angen hyder, ymddiriedaeth a chynefindra â ffordd newydd o weithio cyn y gellir ymgysylltu â sgyrsiau myfyriol o’r fath yn y fan a’r lle.

Nid yw PIT Stop heb ei heriau. Roedd ambell athro dan hyfforddiant wedi anghofio galw am eu PIT Stops, a bu camddealltwriaeth o bryd i’w gilydd. Er enghraifft, canfu un mentor, er bod yr athro dan hyfforddiant wedi nodio’i ben ei fod yn cytuno â’r adborth ynghylch atgyfnerthu cadarnhaol ac yn rhoi’r argraff ei fod yn deall yr awgrymiadau, ni chafodd y rhain eu cymhwyso. Daethom i’r casgliad y gellid cynnwys modelu byw fel strategaeth i gefnogi athrawon dan hyfforddiant mewn achosion o’r fath.

Pan ddaethom â’r arsylwyr a’r athrawon dan hyfforddiant ynghyd i werthuso’r prosiect, nid oedd gennym unrhyw brinder o gwestiynau pellach i’w harchwilio. Roedd rhai o’r rhain yn ymwneud â materion logistaidd (e.e. ‘A allem amrywio nifer y PIT Stops?’) ac roedd eraill yn fwy damcaniaethol (e.e. ‘Beth yw rôl emosiynau wrth fyfyrio?’). Cytunom ar rai pethau nad oeddent yn agored i drafodaeth wrth symud ymlaen (e.e. yr angen am hyfforddiant ar gyfer mentoriaid, cyfarfod rhagarweiniol a chyfarfod ar ôl gwers, a tharged y cytunir arno) a rhai pethau y gallem fod yn hyblyg yn eu cylch (e.e. trefn y PIT Stops). Aethom ymlaen i lunio canllawiau i gefnogi lledaeniad ehangach y model a chreu allbynnau megis animeiddiadau a phosteri i gyfleu’r negeseuon allweddol mewn fformat hygyrch.

Sgrinlun a gymerwyd o animeiddiad PIT Stop (yn Saesneg)Cafwyd cytundeb unfrydol bod llwyddiant PIT Stop yn dibynnu ar y berthynas rhwng y mentor a’r mentorai, ynghyd ag ansawdd y cwestiynu a’r rhyngweithio, fframio’r ddeialog o amgylch naratif datblygiadol, anfeirniadol, a chyswllt agos rhwng prifysgolion ac ysgolion partner. Roedd y drafodaeth ar ôl y wers yn allweddol ar gyfer hwyluso myfyrio ar weithredu.

 

Lluniwyd PIT Stop fel dull ymholi proffesiynol parhaus yn hytrach nag asesiad confensiynol o brofiadau addysgu yn yr ysgol. Mae hyn yn cyd-fynd â’n gweledigaeth o ddatblygu ymarferwyr myfyriol y mae eu hymarfer wedi’i seilio ar ymchwil. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i archwilio os gallai’r model weithio ar gyfer cynulleidfaoedd eraill, megis cynorthwywyr addysgu ac athrawon newydd gymhwyso. Os hoffech wybod rhagor am y model neu weithio ar y cyd i’w ddatblygu a’i weithredu ymhellach, cysylltwch â ni.

Cydnabyddiaeth

Rydym yn ddiolchgar i’r arweinwyr AGA, y mentoriaid a’r athrawon dan hyfforddiant a fu’n cymryd rhan.