CGA / EWC

About us banner
Datganiad CGA ar ffioedd 2024/25 - neges i gofrestreion
Datganiad CGA ar ffioedd 2024/25 - neges i gofrestreion

O dan ddeddfwriaeth, y ffi flynyddol i'r rheiny sydd angen cofrestru gyda CGA yw £46, waeth bynnag fo'r categori cofrestru. Mae hyn yn golygu mai ffi cofrestru CGA yw un o'r isaf o unrhyw broffesiwn ledled y DU, ac ar draws y byd, ac nid yw wedi codi ers i ni gael ein sefydlu yn 2015, er bod costau wedi codi'n sylweddol.

Hyd at a chan gynnwys cyfnod cofrestru 2023/24, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfraniad i bob cofrestrai tuag at eu ffi flynyddol, a elwir yn gymhorthdal. Mae hyn wedi golygu bod unigolion wedi talu £15 neu £45 y flwyddyn i gofrestru, yn ddibynnol ar eu categori cofrestru.

Mae'r darlun ariannol yng Nghymru ar hyn o bryd yn golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau cyllido anodd. Rydym wedi cael gwybod na fyddant yn darparu'r cymhorthdal i'r ffi cofrestru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

Rydym yn deall yr effaith ariannol allai hyn ei gael arnoch chi. O'r herwydd, mae CGA wedi cytuno i sicrhau'r golled yn y cyfraniad i'n cofrestreion am un flwyddyn, gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, sy'n golygu y bydd y ffi mae unigolion yn talu i gofrestru yn aros yr un peth ar gyfer 2024/25.

Rhaid nodi nad yw hyn yn opsiwn cynaliadwy yn yr hirdymor. Dim ond oherwydd ein bod ni, fel nifer o sefydliadau eraill, wedi gweld cwymp yn ein gwariant yn ystod pandemig COVID-19, y gallwn wneud hyn ar gyfer 2024/25.

Fel rheoleiddir annibynnol, proffesiynol, mae gofyn i ni gadw digon o gronfeydd wrth gefn ar gyfer costau cynnal ac ymrwymiadau contract, pe bai unrhyw beth anrhagweladwy ddigwydd. Mae hyn i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon yn rheoleiddio ym mudd y cyhoedd i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc.

Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau am hyn gyda'n cofrestreion a'n rhanddeiliaid, wrth iddynt fod ar gael.