CGA / EWC

About us banner
CGA yn gwneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig i bwyllgorau priodoldeb i ymarfer
CGA yn gwneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig i bwyllgorau priodoldeb i ymarfer

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi croesawu cynigion gan Lywodraeth Cymru sydd am ddiwygio Rheoliadau sy'n llywodraethu aelodaeth pwyllgorau priodoldeb i ymarfer.

Gan ymateb i ymgynghoriad, ddaeth i ben ar 1 Rhagfyr 2023, diolchodd CGA i Lywodraeth Cymru am gymryd camau ar bryderon a godwyd gan y rheoleiddir annibynnol, proffesiynol am y ddeddfwriaeth bresennol.

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae'n rhaid i bob pwyllgor gael o leiaf un cofrestrai o'r un categori cofrestru a'r person sy'n wynebu'r pwyllgor. Mae hyn yn heriol wrth ddod o hyd i aelodau i fod ar bwyllgorau lle mae'r cofrestreion o gategorïau gyda niferoedd llai o gofrestreion, fel gwaith ieuenctid.

Byddai'r cynigion yn rhoi mwy o hyblygrwydd i CGA i benodi aelodau o'r gronfa ehangach.

Wrth ymateb ar ran CGA, dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr "Ry'n ni'n falch bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r pryderon ry'n ni wedi eu codi ynghylch dod o hyd i aelodau priodol i'r pwyllgorau priodoldeb i ymarfer.

"Mae hyn i gyd yn amserol, yn enwedig o ystyried y categorïau ychwanegol sy'n gorfod cofrestru gyda ni nawr, a'r categorïau posib ychwanegol a ddisgwylir o fis Ebrill 2024."

The ymateb yn llawn ar wefan CGA.