CGA / EWC

About us banner
Y gydnabyddiaeth fwyaf i Wasanaeth Ieuenctid Caerffili
Y gydnabyddiaeth fwyaf i Wasanaeth Ieuenctid Caerffili

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan dderbyn y Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y Marc Ansawdd).

Cyflwynwyd y wobr fawreddog gan asesydd y Marc Ansawdd, Catrin James, mewn seremoni arbennig lle’r oedd pobl amlwg leol, staff ieuenctid, aelodau’r gymuned a phobl ifanc sy’n ymwneud â’r gwasanaeth yn bresennol.

Mae’r Marc Ansawdd (sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)) yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth sefydliad. I dderbyn yr achrediad, rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid asesu eu hunain yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a phasio asesiad allanol.

Dros y 18 mis diwethaf, mae tîm Caerffili wedi cyflawni tair lefel y Marc Ansawdd – efydd, arian a, nawr, aur.

Yn ystod ei chyflwyniad, crynhodd Catrin fod y tîm yn broffesiynol, yn benderfynol ac yn ofalgar. Fe wnaeth elfennau o adroddiad terfynol yr asesydd gynnwys cymaint yr oedd ymrwymiad y staff, y gwirfoddolwyr a’r grŵp arwain wedi creu argraff dda arnynt. Teimlont fod proffesiynoldeb y staff yn cynnig sylfaen o gydymffurfio ag egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid yng Nghymru, a bod arfer cynhwysol a chydraddoldeb yn rhan annatod o DNA y staff.

A hithau’n siarad ar ôl y cyflwyniad, dywedodd Catrin “Mae hi wedi bod yn hyfryd bod yma’n dathlu llwyddiannau Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili yma yn agoriad eu canolfan ieuenctid newydd ym Mharc Virginia.

“Yn yr adroddiad, galwodd yr aseswyr y gwasanaeth yn aruthrol, a chlodfori ymrwymiad y staff, a pha mor ofalgar mae nhw tuag at y bobl ifanc a’r gwirfoddolwyr, yn ogystal â’i gilydd. Mae popeth mae nhw’n ei wneud er budd y bobl ifanc.”

Ynghyd â chydnabod cyflawniadau’r gwasanaeth, mae’r dyfarniad hefyd yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau pobl ifanc, yn ogystal â’r effaith y mae gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid wedi’i chael ar eu teithiau personol.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae’n fendigedig agor Canolfan Ieuenctid Parc Virginia yn swyddogol a dathlu bod Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi cyflawni’r Marc Ansawdd Aur. Rwy’n anfon fy llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig am y gamp ragorol hon.”

I gael mwy o wybodaeth am y Marc Ansawdd, gan gynnwys sut gall eich sefydliad ennill achrediad, neu sut gallwch chi fod yn asesydd, ewch i wefan CGA.