CGA / EWC

About us banner
Sharron Lusher – Pennu cyflogau ac amodau i athrawon ysgol yng Nghymru: sut mae’n gweithio?
Sharron Lusher – Pennu cyflogau ac amodau i athrawon ysgol yng Nghymru: sut mae’n gweithio?

Sharron Lusher – Pennu cyflogau ac amodau i athrawon ysgol yng Nghymru: sut mae’n gweithio?

September 2021 Sharron LusherSefydlwyd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ym mis Mawrth 2019 fel corff annibynnol â’r cyfrifoldeb am wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyflogau ac amodau athrawon ac arweinwyr ysgolion yng Nghymru. Mae'r Bwrdd yn adrodd i Weinidog y Gymraeg ac Addysg yng Nghymru.

Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn Llywodraeth San Steffan oedd pennu cyflogau ac amodau gwasanaeth athrawon ac arweinwyr ysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr hyd 30 Medi 2018. Cafodd y cyfrifoldeb hwn am athrawon ac arweinwyr yng Nghymru ei drosglwyddo i Weinidogion Cymru ar 30 Medi 2018.

Cyflwynodd y Bwrdd ei drydydd adroddiad i’r Gweinidog ym mis Mai 2021. Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, roeddem eisiau diolch i staff addysgu, arweinwyr ac eraill am eu cyfraniad enfawr i gefnogi plant mewn ysgolion ac o bell yn ystod y pandemig, gan ymateb i heriau’r cyfnod digyffelyb hwn.

Felly, beth mae’r Bwrdd yn ei wneud, a sut mae’r broses yn gweithio?

Mae'r Bwrdd yn cynnwys minnau, y Cadeirydd, a saith aelod, sydd i gyd yn cael eu recriwtio trwy’r broses penodiadau cyhoeddus. Bob blwyddyn, mae’r Gweinidog Addysg yn anfon Llythyr Cylch Gwaith atom. Mae hwn yn rhagnodi’r materion y dylem eu hystyried, ac yn dweud wrthym pryd mae angen cyflwyno ein hargymhellion i’r Gweinidog. Eleni, gofynnodd y Gweinidog inni ystyried lefelau ystodau cyflog ar gyfer 2021, a materion eraill, gan gynnwys, er enghraifft, ystyried a yw’r trefniadau Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu presennol yn gweithio’n effeithiol, rôl a chydnabyddiaeth ariannol athrawon heb gymhwyso, ac effaith materion yn ymwneud â rheoli amser.

Corff annibynnol yw’r Bwrdd – mae’n annibynnol ar y llywodraeth ac yn annibynnol ar unrhyw sefydliad cynrychioladol arall. Mae'r broses o ddatblygu argymhellion 'wedi’i seilio ar dystiolaeth'. Rydym yn ymgynghori â chyrff gwahanol ar y materion yn y Llythyr Cylch Gwaith y gofynnwyd inni eu hystyried. Mae'r ymgyngoreion yn cynnwys undebau llafur, cymdeithasau proffesiynol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cymdeithasau sy’n cynrychioli llywodraethwyr ysgolion a Llywodraeth Cymru.

Rydym hefyd yn chwilio am amrywiaeth fawr o dystiolaeth o ffynonellau gwybodaeth ystadegol. Gall hyn gynnwys materion yn ymwneud â’r economi, megis cyfraddau chwyddiant, enillion blynyddol gwahanol broffesiynau, cymaryddion enillion cenedlaethol a rhyngwladol, recriwtio a chadw athrawon ac arweinwyr, i enwi ond ychydig. Rydym yn cael ein cynorthwyo yn ein gwaith gan ysgrifenyddiaeth annibynnol, a ddarperir gan CGA, sy’n rheoli’r broses ei hun, gan drefnu cyfarfodydd, anfon gwybodaeth allan a chynorthwyo â darparu gwybodaeth ystadegol.

Mae ymgyngoreion yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig inni ar faterion a geir yn y Llythyr Cylch Gwaith – y cam 'tystiolaeth ysgrifenedig'. Ar ôl inni gael y dystiolaeth ysgrifenedig, caiff yr holl sylwadau a ddaeth i law eu dosbarthu ymysg yr ymgyngoreion, sy’n cael y cyfle i gynnig sylwadau ar dystiolaeth ei gilydd – y cam 'tystiolaeth ategol'.

Caiff y dystiolaeth ei dadansoddi gan y Bwrdd, sydd wedyn yn cyfarfod â chynrychiolwyr yr holl gyrff sy’n ymgyngoreion – y cam 'tystiolaeth lafar'. Yn y cyfarfodydd hyn, caiff y dystiolaeth ei thrafod ac ar ôl hyn, mae’n bosibl y bydd y Bwrdd yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol y teimla y gallai fod yn berthnasol i’w ddadansoddiad. Yn ogystal, rydym yn ymweld â detholiad o ysgolion bob blwyddyn, er mwyn cyfarfod ag athrawon ac arweinwyr i wrando ar eu barn, a darparu cyd-destun ar gyfer y dystiolaeth a ddaeth oddi wrth ymgyngoreion.

Yn olaf rydym yn llunio casgliadau ac argymhellion, ac yn ysgrifennu ein hadroddiad i’r Gweinidog. Mae'r Gweinidog yn ystyried yr argymhellion yr ydym wedi’u gwneud, ac wedyn yn penderfynu a fydd yn derbyn yr argymhellion. Mae'n cyhoeddi ei benderfyniadau arfaethedig ar ffurf ymgynghoriad, ac ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori, yn gwneud ei benderfyniadau terfynol.

Daw datganoli’r cyfrifoldeb am gyflogau ac amodau gwasanaeth athrawon ac arweinwyr ar adeg pan mae’r olwg sydd ar addysg yng Nghymru yn newid. Mae ffyniant economaidd, cydlyniant cymdeithasol a llesiant cenedl wedi’u hadeiladu ar seiliau system addysg gadarn a llwyddiannus. Mae Addysg – cenhadaeth ein cenedl yn cydnabod hyn. Ond “er mwyn cyflawni hynny, bydd angen gweithlu addysg o safon uchel sy’n egnïol a brwdfrydig ac sydd wedi ymrwymo i sicrhau dysgu parhaus i bawb. Bydd ein proffesiwn addysgu, gyda phwyslais ar arweinyddiaeth gref a dysgu proffesiynol, yn helpu i fodloni’r disgwyliadau uchel a rennir gennym i gyd ar gyfer ein dysgwyr, ein hysgolion a’n system addysg”. Mae aelodau o’r Bwrdd yn falch o fod yn rhan o daith newid addysgol yng Nghymru, ac maent yn effro i’r cyfleoedd i ddatblygu system addysg sy’n gweithio i Gymru.

Ynghylch Sharron Lusher DL
Ar hyn o bryd Sharron yw Cadeirydd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru a Chadeirydd Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru, mae’n aelod o Fwrdd Cymwysterau Cymru, ac yn aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth. Penodwyd Sharron yn un o Ddirprwy Raglawiaid Dyfed yn 2010, a dyfarnwyd MBE iddi am wasanaethau i addysg bellach yn 2021.