CGA / EWC

About us banner
Ymateb CGA i adolygiad ymarfer plant Neil Foden
Ymateb CGA i adolygiad ymarfer plant Neil Foden

Rydym yn cymeradwyo awduron yr adolygiad annibynnol am eu gwaith trylwyr ac ystyrlon. Rydym yn arbennig yn cydnabod dewrder a chryfder y rheiny ddaeth ymlaen i gyfrannu eu profiadau. Mae ei lleisiau yn ganolog i ddysgu gwersi, a chryfhau diogelu ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae'r cyhoedd yn iawn i ddisgwyl y safon uchaf posibl gan y rheiny sy'n gweithio ym myd addysg. Fel y rheoleiddir proffesiynol annibynnol y gweithlu addysg, mae diogelu' dysgwyr a chynnal hyder y cyhoedd, yn y proffesiynau wrth wraidd popeth ry'n ni'n gwneud.

Rydym yn croesawu argymhellion yr adolygiad, yn enwedig y rheiny sy'n galw ar i asiantaethau statudol i gydweithio'n agosach i wneud trefniadau diogelu cryf, wedi eu cydlynu. Mae'r rhain yn hanfodol i ddiogelu plant a phobl ifanc. Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan, gan weithio gyda phartneriaid ledled Cymru i sicrhau ein bod ni'n rhannu cyfrifoldeb.

Byddwn nawr yn adolygu canfyddiadau'r adroddiad yn ofalus i nodi unrhyw gamau y gallwn eu cymryd i gryfhau ein gwaith rheoleiddiol, a pharhau i adeiladu hyder y cyhoedd yn y proffesiwn. Byddwn hefyd yn cysylltu gyda’r awdurdodau lleol perthnasol i drafod elfennau’r adroddiad sy'n briodol i'n rolau fel y rheoleiddir addysg.