Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, byddwn ni’n clywed gan Sarah Owens, Cynghorydd Lles Staff gydag Education Support sy’n gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i wella lles staff trwy’r Gwasanaeth Lles Staff a ariennir gan Lywodraeth Cymru – sydd ar gael i ysgolion yn rhad ac am ddim.
Tra bod y gwasanaethau y mae Sarah yn cyfeirio atynt yn targedu ysgolion yn benodol, mae’r argymhellion y mae hi’n eu gwneud ar sut i gefnogi lles staff yn addas ar gyfer holl gofrestreion CGA.
Y tu hwnt i’r bisgedi: iechyd meddwl a lles staff mewn ysgolion
Rydym ni i gyd wedi bod yn y sefyllfa honno. Mae arweinydd â bwriadau da yn rhoi pecyn o fisgedi yn yr ystafell staff gydag arwydd ‘dydd da i chi’. Mae’r arwydd yn garedig ond yn teimlo ychydig fel rhoi plastr ar glwyf agored. Ym myd llethol addysg, lle mae baich gwaith, straen a heriau iechyd meddwl yn bresennol yn barhaus, mae angen ymagwedd fwy sylweddol, gynaledig ac ystyrlon at les staff na byrbryd siwgraidd.
Fel Cynghorydd Lles Staff, rwy’n gweld yn uniongyrchol y pwysau anferthol y mae athrawon a staff ysgolion yn eu hwynebu bob dydd. Ac er y gallai rhannu pecyn o fisgedi gwenith siocled roi hwb dros dro, mae’n gwneud ychydig iawn i fynd i’r afael â’r problemau sylfaenol sy’n cyfrannu at orweithio a morâl isel. Nid pleser achlysurol yw lles staff gwirioneddol; mae’n rhan sylfaenol o ddiwylliant yr ysgol. Nid digwyddiad untro mohono, ond ymrwymiad cynaledig i gymuned yr ysgol.
Felly, sut ydym ni’n symud y tu hwnt i’r tun bisgedi ac yn creu amgylchedd sy’n wirioneddol gefnogol ar gyfer lles staff cadarnhaol?
Mae fy ngwaith gyda’r Gwasanaeth Cynghori ar Lesiant yn dod â fi i ysgolion dirifedi. Rwy’n gweld yr ymroddiad anhygoel, yr angerdd a’r egni diflino rydych chi’n eu rhoi i’ch gwaith. Ond rwyf hefyd yn gweld y pwysau aruthrol sy’n eich wynebu, sy’n arwain at orweithio, straen, ac ymdeimlad tawel o orflinder.
Y newyddion da? Dydy’r ateb ddim ynglŷn ag arwyddion mawr, ysgubol. Mae ynglŷn â meithrin diwylliant o ofal yn fwriadol – ethos sydd wedi’i weu i mewn i union ffabrig bywyd ysgol, lle mae staff wir yn teimlo’u bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi.
Arwain ar gyfer lles
Nid siarad am les staff yn unig y mae arweinwyr mewn ysgol iach; maent yn ei fodelu, yn ei ddiogelu, ac mae’n rhan ganolog o’u sgyrsiau a’r penderfyniadau a wnânt, trwy:
- ddiogelu ffiniau: mae uwch arweinwyr yn cyfathrebu’n glir, gan osod canllawiau ynglŷn â phryd i anfon negeseuon e-bost ac ymateb iddynt, er mwyn gwarchod amser staff y tu allan i’r gwaith. Maent yn hyrwyddo ethos sy’n dweud, "Mae’n iawn peidio â meddwl am waith."
- arwain trwy esiampl: mae arweinwyr yn cymryd eu hegwylion eu hunain, yn gadael ar amser rhesymol, ac nid ydynt yn mynd â gwaith adref, gan felly ddangos bod hyn yn ddisgwyliad ar gyfer pob aelod o staff, nid yn bleser moethus.
- edrych ar newid trwy lens lles: wrth roi mentrau newydd ar waith, mae arweinwyr yn mynd ati i ystyried yr effaith ar faich gwaith a morâl staff. Mae rhai ohonynt yn gweithredu gyda "rheol i mewn/allan," gan sicrhau bod tasg arall yn cael ei dileu ar gyfer pob tasg sy’n cael ei hychwanegu.
- neilltuo amser ar gyfer arfer myfyriol: un ffurf brofedig yw goruchwyliaeth broffesiynol — gofod strwythuredig, cyfrinachol i archwilio’ch diben, eich heriau a’ch lles. Mae llawer o arweinwyr ysgol yn disgrifio hyn yn achubiaeth, yn enwedig wrth oresgyn ynysigrwydd a straen. Gall arweinwyr a rheolwyr ysgolion yng Nghymru gofrestru nawr i gael goruchwyliaeth broffesiynol a ariennir, yn rhad ac am ddim i’w hysgol.
Diwylliant o ymddiriedaeth a pharch
Mae staff yn teimlo’n sicr a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi pan fydd eu cyfraniadau’n cael eu cydnabod, a’u lleisiau’n cael eu clywed. Mae hyn yn lleihau teimladau o ynysigrwydd ac yn meithrin cymuned gref a chydlynol. Efallai yr hoffech chi ystyried:
- rhoi llais i staff: mae pwyllgorau lles ac arolygon staff rheolaidd yn darparu ffyrdd i staff rannu adborth gonest a dylanwadu ar benderfyniadau ysgolion.
- dangos gwerthfawrogiad diffuant: mae digwyddiadau dathlu ac arwyddion bach, dilys o ddiolch, fel nodiadau personoledig yn cydnabod gwaith caled, yn cael llawer mwy o effaith na rhoddion generig, symbolaidd.
- ymreolaeth broffesiynol: caiff staff eu trin fel gweithwyr proffesiynol ymddiriedus, a rhoddir ymreolaeth iddynt wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu gwaith, ac yn aml yn darparu ymagwedd fwy hyblyg at eu gwaith. Mae hyn yn fwy grymusol o lawer na microreolaeth.
- baich gwaith gormodol: mae’n brif sbardun straen a gorweithio mewn addysg. Mae ysgol ag ymagwedd realistig o ran baich gwaith, amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall cydweithwyr gefnogi ei gilydd yn hanfodol ar gyfer lles.
Efallai yr hoffech chi feddwl am greu’r canlynol, hefyd:
- mannau sy’n seicolegol ddiogel: mae ysgol sy’n meithrin diwylliant lle mae staff yn teimlo’n ddiogel i gyfaddef eu bod yn cael pethau’n anodd neu’n gwneud camgymeriadau heb ofni cael eu barnu yn gwneud i staff deimlo’n dda. Caiff hyn ei atgyfnerthu gan bolisi drws agored a rheolwyr llinell yn cysylltu â staff yn rheolaidd.
- digwyddiadau cymdeithasol cynhwysol: mae creu calendr cymdeithasol gyda gweithgareddau opsiynol, cost isel neu’n rhad ac am ddim – o glwb llyfrau i gwis staff – yn meithrin perthnasoedd ac yn annog staff i gysylltu y tu allan i weithgareddau ysgol ffurfiol.
- ymdeimlad o berthyn: mae’n hanfodol i deimlo mewn cysylltiad â chymuned yr ysgol, a lles emosiynol a chorfforol gwell, yn y pen draw. Gall creu cysylltiadau diffuant wneud gwahaniaeth mawr.
Gallwch wneud hyn trwy:
- annog defnydd o’r ystafell staff: gall arweinwyr fodelu hyn trwy gamu i ffwrdd o’ch desg a hyrwyddo’r ‘hawl i beidio â meddwl am waith’ hyd yn oed am gyfnodau byr!
- dathlu’r enillion bach: anogwch staff i adael nodiadau dienw o werthfawrogiad a rhannu’r rhain unwaith yr wythnos.
- canolbwyntio ar y broses, nid ar y canlyniad yn unig: trwy rannu ymdeimlad o gyflawniad a gwerthfawrogiad yn y gwaith tîm anhygoel a ddangosir bob dydd.
- annog systemau cefnogi cymheiriaid ar gyfer twf proffesiynol ac emosiynol: gall cysylltu â staff yn anffurfiol helpu meithrin amgylchedd cydweithredol lle mae pawb yn teimlo bod ganddynt gyfaill cymorth y gallant ymddiried ynddo.
Gwella diwylliant eich ysgol
Mae lles staff da yn fuddsoddiad hirdymor, yn y pen draw. Mae ynglŷn â chael tîm arweinyddiaeth tosturiol sy’n cymryd camau diffuant i ddod i adnabod eu staff, gofalu am staff, creu amgylchedd lle mae pob aelod o staff yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, a’u bod wir yn perthyn.
Nid oes rhaid i chi fynd ar y daith hon ar eich pen eich hun. Cysylltwch â mi heddiw i ddysgu sut gallwn ni eich helpu i edrych ar ddiwylliant a lles staff trwy ein gwasanaeth cynghori; a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn rhad ac am ddim i chi neu’ch ysgol: