CGA / EWC

About us banner
Pwy yw CGA
Pwy yw CGA

Ni yw Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), y rheoleiddiwr annibynnol proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n gyfrifol am gofrestru a rheoleiddio 13 categori ar draws ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu oedolion/seiliedig ar waith. Yn 2025, roedd hyn yn fwy na 91,000 o unigolion.

Ond pam fod hyn yn bwysig i chi? Yn gyntaf, mae'n bwysig i ni esbonio beth ry'n ni'n ei olygu gan reoleiddio.

Dyw cysyniad o reoleiddio ddim yn un newydd. Mae nifer o broffesiynau'n cael eu rheoleiddio, o ddoctoriaid a nyrsys, i gyfreithwyr a phenseiri. Mae'n sicrhau mai dim ond y rheiny sy'n cynnal safon uchel o ymddygiad, ac sy'n gymwys, gwybodus, ac yn fedrus, sy'n gallu gweithio mewn rhai rolau penodol. Mae rheoleiddio'n rhoi rhwyd ddiogelwch sy'n rhwystro niwed, tra'n cynnal safonau, ac adeiladu hyder y cyhoedd yn y gweithlu.

Mae cadw Cofrestr o Ymarferwyr Addysg yn hanfodol i'n gwaith rheoleiddio. Mae'r Gofrestr yn cynnwys unigolion sydd wedi eu hasesu gennym ni, ac wedi eu barnu'n addas i ymarfer, gan eu gwneud yn gymwys i weithio mewn addysg yng Nghymru.

Mae'n rhaid i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni ddilyn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae'r ddogfen hon yn gosod y safonau a ddisgwylir gan ein cofrestreion, a'r bwriad yw cefnogi a llywio eu hymddygiad a'u dewisiadau. I bawb arall, mae'r Cod yn helpu deall beth yn union gallwn ni ddisgwyl gan ymarferwyr addysg yng Nghymru.

Os fyddwn yn derbyn pryderon nad yw cofrestrai wedi bodloni'r safonau a ddisgwylir ganddynt, ry'n ni'n ymchwilio ac yn cymryd y camau priodol, trwy ein gwaith priodoldeb i ymarfer. Mae'n bwysig nodi, fel rheoleiddir, nad ydym yma i gosbi cofrestreion, ond i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a'r cyhoedd.

I helpu cofrestreion fodloni'r gofynion, mae gyda ni ystod o wybodaeth, adnoddau, a gwasanaethau. Maent wedi eu creu i helpu cofrestreion gydymffurfio gyda'r Cod, ac i'w cefnogi i fod y gorau gallent fod.

Ond nid yw'n holl gyfrifoldebau statudol yn gysylltiedig â rheoleiddio’r gweithlu addysg.

Rydym hefyd yn gyfrifol am achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a monitro eu cydymffurfiaeth â meini prawf cenedlaethol. Dyma'r cyrsiau sy'n arwain at statws athro cymwys (SAC), sy'n angenrheidiol i fod yn athro ysgol yng Nghymru.

Caiff pob un o raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru eu hasesu, gwerthuso, a'u monitro gan Fwrdd Achredu AGA, sy'n cynnwys arbenigwyr o bob cwr o'r maes addysg. Mae achredu'n golygu gwelliannau parhaus ym myd addysg, gan godi ansawdd hyfforddiant athrawon, a denu pobl cymwys, â sgiliau i'r proffesiwn.

Ac yn olaf, mae gyda ni gyfrifoldeb statudol i hyrwyddo gyrfaoedd yn sector addysg Cymru. Ry'n ni'n gwneud hyn drwy Addysgwyr Cymru, gwasanaeth am ddim, sy'n dod â chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant, a swyddi ynghyd mewn un man cyfleus. Mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth ar y rolau sydd ar gael, dolenni i unrhyw gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd ar gael, ac arddangos y swyddi gwag diweddaraf drwy'r porthol swyddi, y mwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru. Mae'r tîm hefyd yn cynnig gwasanaeth eirioli a chyngor, gan roi cyfle i bobl siarad am gyfleoedd gyrfa, neu gael hyfforddiant ar gyfer ysgrifennu ceisiadau, neu sgiliau cyfweld.

Mae popeth ry'n ni'n ei wneud yn gweithio tuag at wireddu ein gweledigaeth o fod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gellid ymddiried ynddo, sy'n gweithio ym mudd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru.

Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwaid, rydym wedi cyhoeddi canllaw i'ch helpu i gymryd rhan fwy actif yn addysg eich plant. Rydym wedi ei ddatblygu gyda'r elusen genedlaethol Parentkind, ac mae'n cynnwys gwybodaeth a chyngor ar ein rôl a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.

Os hoffech wybod mwy amdanom ewch i'n gwefan, neu os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..