Lawrlwythwch ein canllaw i rieni.
Cyflwyniad
Pan fyddwch yn anfon eich plant i’r ysgol, coleg, neu wasanaeth ieuenctid, rydych yn ymddiried yn y staff sy’n gweithio yno i’w cadw’n ddiogel. Yng Nghymru, mae’n rhaid i lawer o’r aelodau staff hyn, gan gynnwys athrawon, staff cymorth, a gweithwyr ieuenctid, fod wedi’u cofrestru gyda’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, sef Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Yn yr un modd â phroffesiynau eraill sy’n cael eu rheoleiddio, fel meddygaeth, y gyfraith, a gofal cymdeithasol, rydym yn rheoleiddio er budd y cyhoedd, gan weithio i sicrhau bod ymarferwyr addysg sy’n gweithio yng Nghymru yn gymwysedig ac yn alluog. Rydym yma i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc ar yr un pryd â sicrhau bod y safonau ymddygiad ac ymarfer uchaf yn cael eu cynnal ar draws y sector.
Ysgrifennwyd y canllaw byr hwn yn benodol ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid. Mae’n esbonio ein rôl, pam mae cofrestru’n bwysig, y safonau y mae’n rhaid i gofrestreion eu bodloni, a beth allwch ei wneud pan fydd pethau’n mynd o chwith.
Ynglŷn â CGA
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio er budd y cyhoedd. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod y gweithlu addysg yn arwyddocaol iawn i ni i gyd mewn rhyw ffordd, boed hynny fel dysgwyr ein hunain neu, i lawer yn hwyrach mewn bywyd, fel rhiant neu warcheidwad. Mae ein gwaith yn ein galluogi i gynnal safonau addysgu ac ansawdd dysgu fel bod pawb, o ddysgwyr a phobl ifanc, i chi fel eu rhieni neu warcheidwaid, yn gallu ymddiried yng ngweithlu addysg Cymru a bod â ffydd ynddo.
Yn ogystal â’n gwaith rheoleiddiol, rydym hefyd yn:
- cynorthwyo ein cofrestreion i allu cyflawni’r safonau proffesiynol uchaf trwy ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau, a gwasanaethau a gynlluniwyd i gynnig arweiniad a chyfarwyddyd
- ceisio cyfleoedd i ffurfio a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru
- hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg yng Nghymru trwy wefan a gwasanaeth eirioli Addysgwyr Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am ein rôl, ymwelwch â’n gwefan.
Beth yw cofrestru?
Er mwyn rheoleiddio’r gweithlu’n effeithiol, rydym yn cynnal cofrestr o ymarferwyr addysg sy’n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion/dysgu seiliedig ar waith.
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gweithio yn un o’r rolau a restrir isod gofrestru gyda ni cyn y gall weithio’n gyfreithlon yng Nghymru:
- athro ysgol
- athro ysgol annibynnol
- athro addysg bellach
- pennaeth neu uwch arweinydd sy’n gweithio mewn sefydliad addysg bellach
- athro sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
- ymarferydd addysg oedolion
- ymarferydd dysgu seiliedig ar waith
- gweithiwr ieuenctid
- gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol
- gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol
- gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach
- gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
- gweithiwr cymorth ieuenctid
Gallwch wirio bod y staff sy’n gweithio gyda’ch plant wedi’u cofrestru gyda ni trwy ddefnyddio’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg. Yno, fe allwch hefyd weld unrhyw unigolion y mae gorchmynion disgyblu wedi’u gosod ar eu cofrestriad ar hyn o bryd. Mae cofrestru gyda CGA yn golygu bod y rhai sy’n gweithio gyda’ch plant yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth iawn i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol, a bod eu haddasrwydd i gofrestru wedi cael ei asesu gennym ni.
Mae rheoleiddio a chofrestru yn allweddol i sicrhau bod pob dysgwr a pherson ifanc yn cael ei ddiogelu, yn ogystal â’r cyhoedd ehangach.
Beth yw’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol?
Mae’n rhaid i bawb sydd wedi’i gofrestru gyda ni ddilyn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod). Dogfen allweddol ydyw sy’n amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan gofrestrai, yn y gwaith a’r tu allan iddo. Mae hefyd yn ddogfen allweddol i chi fel rhiant neu warcheidwad oherwydd ei bod yn disgrifio’r ymddygiad y gallwch ei ddisgwyl gan gofrestrai.
Trwy ddilyn y Cod, mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal chwe egwyddor allweddol:
- Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
- Unplygrwydd Proffesiynol
- Cydweithio
- Arweinyddiaeth
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
- Dysgu Proffesiynol
Mae codau ymddygiad ac ymarfer yn gyffredin ar draws proffesiynau cofrestredig eraill, gan gynnwys nyrsys, meddygon, deintyddion, a chyfreithwyr.
Rydym yn cynnig llawer o gymorth sy’n helpu pobl i ddefnyddio a deall y Cod. Mae hyn yn cynnwys sesiynau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant grŵp am ddim, a chanllawiau arfer da sy’n cynnig cyngor ac awgrymiadau defnyddiol.
Mynegi pryderon ynglŷn â chofrestrai
Rydym yn gwybod bod pethau’n gallu mynd o chwith, weithiau. Er nad ydym yn gorff cwynion, fe allwch chi, fel rhiant neu warcheidwad, fynegi pryder i ni ynglŷn ag un o’n cofrestreion. Os byddwch yn penderfynu mynegi pryder, mae ambell beth pwysig y mae angen i chi ei ystyried:
- mae’n rhaid i gŵyn ymwneud ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol honedig neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol honedig cofrestrai
- gallwn dderbyn cwyn dim ond os yw’r un gŵyn yn union eisoes wedi cael ei hadrodd i gyflogwr neu asiant y cofrestrai, a'ch bodi wedi derbyn ymateb i’r gŵyn honno
Rydym wedi cynhyrchu canllawiau clir sy’n cynnwys yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen os hoffech wneud cwyn.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
Rydym yma i sicrhau y gallwch deimlo’n hyderus yn yr unigolion sy’n gweithio gyda’ch plentyn.
Os hoffech wybod mwy am CGA, y Cod, neu sut rydym yn cefnogi addysg yng Nghymru, ymwelwch â’r wefan, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol, neu cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi