CGA / EWC

About us banner
Pasport Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.....
Pasport Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.....

Pasport Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.....

Berni Tyler

Dyma aelod Cyngor CGA Berni Tyler gyda phersbectif cyflogwr ar werth a defnyddioldeb y PDP

Mae’n gyfnod gwerthuso yng nghwmni hyfforddi ISA ar hyn o bryd ac un o’r meysydd mae fy nhîm o hyd yn gwneud esgusodion am beidio mynd i’r afael ag ef yw eu Cofnod Datblygu Personol (CDP). Mae gennym rai sêr, yn bennaf y rheiny sy’n gorfod cofnodi DPP mewn perthynas â’u gallu cyfredol i asesu yn eu meysydd galwedigaethol. Mae’r gweddill yn amrywio o’r rheiny sy’n creu CDP mor drwchus â ‘Petrograd’ i’r rheiny nad ydynt yn siŵr lle i ddod o hyd iddo!

Efallai bod golau ar ben draw’r twnnel a fydd yn helpu i wella’r arfer hwn! Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelodd Liz Brimble (Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg) â chwmni hyfforddi ISA. Daeth Liz i drafod cofrestru’r gweithlu Dysgu Seiliedig ar Waith gyda’n tîm cyflawni ymroddedig. Mae tîm cyflawni ISA yn griw egnïol a bywiog ac roeddwn yn disgwyl ychydig o wrthwynebiad a rhai cwestiynau dwys ynghylch yr angen i gofrestru. Fodd bynnag, gwrandawodd y tîm yn astud cyn gofyn ambell gwestiwn ond, yn gyffredinol, roeddent yn cytuno â Liz. Roeddent yn gallu gweld y perthnasedd a’r angen yn eglur, ac roeddent oll yn falch bod ein gweithlu’n cael cydnabyddiaeth ac yn cael eu proffesiynoli. Gofynnodd un aelod am gael ymuno yn y fan a’r lle! Roeddwn i’n disgwyl mwy o gwestiynau ‘ond beth sydd ynddo fe i mi?’ ac roeddwn yn barod i gefnogi Liz drwy amlinellu’r manteision personol.

Yn amlwg, dyma drwydded i unigolion ymarfer y canlynol:

  • gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfraniad ein timau cyflawni i addysg yng Nghymru
  • cynnal hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg
  • hyrwyddo datblygiad proffesiynol
  • sefydlu safonau proffesiynol ar draws y gweithlu addysg

Ond un o’r manteision gorau oll yw’r gallu i gael mynediad at, ac i ddefnyddio’r Pasport Dysgu Proffesiynol. Dyma bortffolio ar-lein sy’n cynnwys unrhyw beth y dymuna’r defnyddiwr ei ychwanegu ato er mwyn datblygu darlun cyfannol o’r defnyddiwr sy’n gallu cael ei ddefnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd, o ddyddlyfr myfyriol sy’n rhan o gymhwyster i CV rhyngweithiol cynhwysfawr a chofnod DPP.

Nawr, petai’n rhaid i mi gyflwyno fy CV, tystiolaeth o gymwysterau a gwybodaeth ar ddysgu anffurfiol diweddar, byddai’n rhaid i mi gymryd diwrnod o wyliau er mwyn dod o hyd i’r holl wybodaeth! Wedyn, byddai’n rhaid i mi ddelio â mynydd o waith papur, ffeiliau trwchus, ystod o daenlenni a fersiynau Word o fy CV. Rwy’n siŵr bod yr uchod yn taro tant gyda nifer o ymarferwyr! Y gallu i gadw’r holl wybodaeth hon yn yr un lle yw’r ateb perffaith, ac mae’r ffaith ei fod yn bersonol ac yn symudol yn well fyth hyd yn oed. Mae gan nifer o fusnesau, gan gynnwys fy un i, ffyrdd o gasglu a storio gwybodaeth DPP sy’n amrywio - o’r sefydliad yn gwneud hynny ar ran y gweithiwr i’r unigolyn yn bod yn gyfrifol am wneud hynny. Mae’n siŵr bod nifer o’r systemau hyn mor effeithiol â’r CDP, maen nhw’n ffurfio rhan o system sy’n casglu a chofnodi gwybodaeth ar ran yr Adran Adnoddau Dynol ac at ddiben Dysgu a Datblygu, ac maen nhw’n aros ym mherchnogaeth y sefydliad. Mae hynny’n golygu bod trosglwyddo’r wybodaeth i weithle newydd yn amhosibl ac yn arwain at orfod ail-fewnbynnu ac ail-gofnodi gwybodaeth ar system newydd neu, mewn rhai achosion, ei cholli’n gyfan gwbl a gorfod cychwyn eto.

Mae’n bosibl cael mynediad at y CCDP o unrhyw ddyfais, fel gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, ac mae’n gweithio’n dda ar bob un. Ydy’r CCDP yn hawdd i’w ddefnyddio? Wel, os gallwch chi ddefnyddio Facebook, Twitter neu Instagram, byddwch yn ei chael hi’n hawdd llywio’r CCDP gan fod yr egwyddorion yn debyg. Mae llwytho gwybodaeth i’r CDP mor hawdd â llwytho ffotograff i Facebook, ac yn llawer mwy gwerth chweil. Hyd yn oed os nad ydych yn gyfarwydd â rhwydweithio cymdeithasol, mae swyddogaeth a CDP yn syml a’r botymau yn hawdd i’w deall. Does dim ffordd y gallwch dorri’r CDP felly’r unig beth sydd ar ôl i chi ei wneud yw mentro a gweld beth allwch chi ei greu. Gyda 66% o oedolion yn y DU yn defnyddio ffonau clyfar fel eu prif ddull o gysylltu â’r rhyngrwyd, nawr mae’n bosibl i chi gadw eich taith ddysgu bersonol wrth law i’w diweddaru, ei rhannu a’i defnyddio unrhyw bryd (Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu, Ofcom 2015).

Yn ogystal, mae’r CDP yn cynnwys dolenni at adnoddau defnyddiol fel rheoli perfformiad, Dysgu Cymru, Hwb ac ystod eang o ymchwil ddefnyddiol. Mae’r CDP yn toglo’n hawdd rhwng Cymraeg a Saesneg ac mae’n bosibl storio eich gwybodaeth yn ddwyieithog.

Fel cyflogwr, gallaf weld ystod eang o fanteision. Bydd y ffaith fod yr ymarferydd yn berchen arno yn ei annog i ychwanegu ystod o dystiolaeth ac, i’r rheiny sy’n astudio, mae’r CDP yn gweithio’n dda fel dyddlyfr myfyriol. Gallwch rannu’r CDP yn gyfan gwbl neu fesul rhan gyda chyflogwyr presennol neu ddarpar gyflogwyr, swyddogion sicrhau ansawdd o sefydliadau gwobrwyo a chymheiriaid. I ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sy’n gweithio yn y sector ysgolion yn darparu cyfleoedd galwedigaethol ar ran darparwyr dysgu seiliedig ar waith, bydd y gallu i rannu rhannau o’r CDP gydag ysgolion yn darparu tawelwch meddwl a hyder o ran y staff rydym yn eu defnyddio yno.
Ers ei lansiad ym mis Medi 2016, mae’r llwyfan wedi cael 7,000 o drawiadau ac eisoes mae yna 5,900 o ddefnyddwyr. Gyda’r potensial o ddenu dros 75,000 o gofrestrwyr o Ebrill 2017, gallai’r pasport hwn newid y ffordd rydym ni’n cofnodi a rhannu ein teithiau dysgu personol yng Nghymru.

I grynhoi, mae gan y CDP y potensial i chwyldroi’r broses recriwtio yn y sector dysgu seiliedig ar waith ac rwy’n edrych ymlaen at ddyfodol lle mae modd i ddarpar weithwyr rannu fideos ohonynt yn dysgu, arddangos ac ysbrydoli eu dysgwyr gyda ni. Mae gan y CDP y potensial i wneud y broses recriwtio yn fwy dibynadwy, nid yn unig i’r cyflogwr, ond hefyd i ymgeiswyr, gan eu galluogi nhw i arddangos sut maen nhw wedi astudio, myfyrio a datblygu, ochr yn ochr â thystiolaeth go iawn.
Felly ewch ati i greu eich taith ddysgu bersonol, sydd â’r potensial i weithredu fel pasport at yrfa lwyddiannus.....

‘Addysg yw’r pasport at y dyfodol, oherwydd mae yfory yn perthyn i’r rheiny sy’n paratoi ar ei gyfer heddiw’
(Malcolm X)