Rydym wedi cyhoeddi ein Hystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru 2026, sy’n cynnig golwg unigryw ar y proffesiwn addysg ar draws Cymru.
Mae’r adroddiad yn defnyddio data’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg ac mae’n cynnig gwybodaeth fanwl am broffil demograffig, sgiliau Cymraeg, cymwysterau, patrymau cyflogaeth, a manylion cadw ymarferwyr ar draws 13 o gategorïau cofrestru.
Ar 1 Mawrth 2026, roedd 91,357 o gofrestreion unigol ar y Gofrestr, yn cwmpasu ymarferwyr sy’n gweithio mewn ysgolion a gynhelir, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion, gwaith ieuenctid, a lleoliadau annibynnol ar draws Cymru.
Er bod maint cyffredinol y gweithlu cofrestredig yn parhau i fod yn sefydlog, mae’r ystadegau’n dangos bod gwahaniaethau’n dod i’r amlwg ar draws sectorau, gyda thwf mewn dysgu oedolion a lleoliadau annibynnol, a gostyngiadau bach mewn rhai categorïau addysg bellach ac ysgol.
Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae’r canlynol:
- roedd 34,443 o athrawon ysgol wedi cofrestru gyda CGA yn 2026, sef gostyngiad o 2.3% o gymharu â 2025
- cynyddodd nifer yr ymarferwyr dysgu oedolion 15.5% o gymharu â 2025 (328 oedd wedi cofrestru yn 2025)
- cynyddodd cofrestriadau athrawon ysgol annibynnol 6.3%, a chynyddodd gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol 17.0%
- mae sgiliau Cymraeg yn parhau i fod yn weddol gyson ar draws y gweithlu, gyda 33.8% o athrawon ysgol yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg a 27.1% yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
- mae data ar lefelau cadw yn parhau i gynnig cipolwg gwerthfawr ar dueddiadau’r gweithlu, gyda 75.1% o athrawon ysgol o garfan 2021 yn parhau i fod wedi cofrestru 5 mlynedd yn ddiweddarach
Hefyd, mae’r ystadegau’n darparu data sy’n dangos ehangder ac amrywiaeth y gweithlu addysg yng Nghymru, gydag ymarferwyr yn gweithio ar draws nifer o sectorau a lleoliadau.
Y Gofrestr yw’r unig ffynhonnell ddata sy’n dwyn gwybodaeth ynghyd am y gweithlu addysg cofrestredig llawn yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi data eleni, meddai Prif Weithredwr CGA, Lisa Winstone, "Mae Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yn darparu sail dystiolaeth bwysig ar gyfer deall y gweithlu addysg yng Nghymru.
"Trwy ddefnyddio data gan 91,357 o unigolion, mae’n cynnig cipolwg gwerthfawr i bobl sy’n gweithio ar draws addysg, gan helpu ymarferwyr, cyflogwyr, llunwyr polisi, a rhanddeiliaid i ddeall tueddiadau a nodweddion y gweithlu yn well.
"Rydym yn falch o ddarparu’r wybodaeth hon a byddwn yn parhau i fonitro newidiadau ar draws y sector i gefnogi trafodaeth a phenderfyniadau gwybodus."
Mae Ystadegau Blynyddol llawn y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru 2026 ar gael ar wefan CGA.
