CGA / EWC

About us banner
Anthony Priest - Iechyd meddwl, lles a Covid-19: cymorth am ddim i ysgolion yng Nghymru
Anthony Priest - Iechyd meddwl, lles a Covid-19: cymorth am ddim i ysgolion yng Nghymru

Anthony Priest - Iechyd meddwl, lles a Covid-19: cymorth am ddim i ysgolion yng Nghymru

Anthony PriestWrth i argyfwng Covid-19 barhau i 2021, mae’r gweithlu addysg wedi bod yr un mor benderfynol o sicrhau bod myfyrwyr yn gallu parhau i ddysgu, gan ymgodymu hefyd â mwy a mwy o alwadau proffesiynol a phersonol. Mae athrawon a staff wedi addasu yn wyneb cyfundrefnau newydd ac wedi ymdrin â newidiadau cyson i ganllawiau, gan barhau i gyflwyno gwersi dyddiol i fyfyrwyr ar yr un pryd. O ganlyniad, mae llawer o’n gweithwyr proffesiynol wedi ymlâdd, yn naturiol.

Eto, clywn o hyd am weithwyr addysg proffesiynol yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i’r pandemig amlygu pryderon sydd eisoes yn bodoli, fel anghydraddoldeb dysgu, tlodi plant a mynediad at dechnoleg.

Mae canfyddiadau diweddar o ymchwil Mynegai Lles Athrawon 2020 Education Support yn dweud wrthym fod lles staff addysg yn is o lawer na lles y boblogaeth gyffredinol. Mae symptomau lles gwael, fel anhawster canolbwyntio, methu cysgu a theimlo’n ddagreuol, ar gynnydd hefyd.

Os nad eir i’r afael â’r symptomau hyn, gallant arwain at ddiagnosis posibl o gyflyrau iechyd meddwl, fel iselder a gorbryder. Mae lefelau straen yn parhau’n uchel ar draws gweithwyr addysg proffesiynol (62%) ac uwch arweinwyr (77%), gydag oriau hir a baich gwaith yn gyfrannwr mawr at hyn.

Dyma pam mae Education Support yn parhau i alw am sicrhau bod lles staff yn ganolog i bolisi addysg ac i arferion ysgolion. Mae cymorth i athrawon wedi dod yn fater o gyfleoedd cymdeithasol ac adferiad cenedlaethol. Bydd profiad o bandemig byd-eang yn ystod eu haddysg orfodol yn effeithio’n sylweddol ar y genhedlaeth hon o blant. Mae’n hanfodol bob y bobl sy’n gyfrifol am roi’r cyfle gorau iddynt yn ddigon iach i barhau i fod yn bresennol - yn gorfforol ac yn emosiynol.

Gwasanaeth Lles Ysgolion Education Support – cymorth am ddim i ysgolion

Yn Education Support, mae dewrder a thrugaredd y gweithlu addysg yn codi’n calon ni, ac rydym yn falch o allu cynnig cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Bellach, gall Education Support, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, gynnig cymorth i ysgolion ledled Cymru, gyda ffocws ar gefnogi iechyd meddwl a lles meddyliol staff. Trwy’r Gwasanaeth Lles Ysgolion, rydym yn cynnig gwasanaethau lles yn y gweithle, yn rhad ac am ddim. Gallwn ddarparu adnoddau i’ch ysgol, gweithdai i staff a chyngor ar bolisïau ac arferion sy’n seiliedig ar arfer gorau, sy’n cefnogi lles staff yn ystod y cyfnod hwn.

Caiff Cynghorydd Lles ei neilltuo i chi, a gall weithio gyda chi i greu cynllun cymorth pwrpasol wedi’i addasu i anghenion eich ysgol.

Hefyd, gall y cynghorydd eich galluogi i gael at wasanaethau eraill, trwy Education Support, gan gynnwys cymorth i benaethiaid yng Nghymru drwy raglen cymorth cymheiriaid rydym ni’n ei threfnu a chynnig goruchwyliaeth un-i-un gan gwnselwyr hyfforddedig. Eto, mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru.

Beth mae ysgolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn ei ddweud

Rydym wedi cael ymateb hynod gadarnhaol gan staff sydd eisoes wedi manteisio ar y Gwasanaethau Lles Ysgolion yng Nghymru. Dyma ddim ond ychydig o’r adborth gwych gawson ni:

“Mae cael arbenigwr ‘wrth law’ fel chi, sydd bob amser ar gael ac sy’n gallu’n cyfeirio ni at wahanol lefelau o gymorth ar gyfer senarios amrywiol wedi bod yn amhrisiadwy… Bu cael cymorth ar y cyd fel grŵp ac yna myfyrio ar sut mae wedi cael effaith yn ôl yng nghyd-destunau gwahanol ein hysgol yn arbennig o fuddiol… rydym yn ddiolchgar iawn i Education Support a’r rhan rydych chi’n ei chwarae yn ystod y pandemig."

"Roeddwn i’n teimlo mod i wedi cael fy ysbrydoli pan adawais i’r ysgol! Mae wir mor bwysig siarad a rhannu, ac mae’n dda siarad â phobl y tu hwnt i ’nghylch cymorth arferol, hefyd."

“Cofrestru ar gyfer y grŵp cymorth hwn oedd un o’r pethau gorau i mi erioed eu gwneud. Rwy’n gwerthfawrogi cymaint y cyfle i ymuno â chriw mor glên!"

Os hoffech gysylltu i ddysgu rhagor am sut gallwn ni helpu (neu i drefnu galwad), cysylltwch ag Anthony.

Llinell gymorth gyfrinachol ar gael, yn rhad ac am ddim

Yn ogystal â’r Gwasanaeth Lles Ysgolion i ysgolion, mae llinell gymorth gyfrinachol a rhad ac am ddim Education Support ar gael hefyd i’r holl staff addysg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys athrawon, darlithwyr a staff cymorth neu weithwyr ieuenctid sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau.

Os ydych chi’n brwydro â theimladau anodd, gallwch gael cymorth emosiynol gan gwnselydd hyfforddedig drwy ffonio 08000 562561. Mae cymorth ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Ffoniwch ni. Fe wnawn ni wrando.

 

Anthony Priest

Anthony Priest yw Cynghorydd Lles yn y Gweithle yn Education Support.