Rydym yn croesawu cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar recriwtio a dargadw athrawon yng Nghymru, sy'n amlygu'r heriau sylweddol sy'n wynebu'r gweithlu addysg. Hoffem ddiolch i'r Pwyllgor am ei waith helaeth yn casglu tystiolaeth o bob cwr o'r sector.
Fe wnaethom ddarparu llawer o dystiolaeth i'r ymchwiliad, gan dynnu ar ein data, mewnwelediad rheoleiddiol, ac ymgysylltiad gyda chofrestreion ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys nifer o themâu, gan gynnwys addysg gychwynnol athrawon, recriwtio a dargadw, arweinyddiaeth a chynnydd gyrfaoedd, llwyth gwaith, lles, ymddygiad, amrywiaeth y gweithlu, a dysgu proffesiynol.
Rydym yn cydnabod effeithiau difrifol y gall materion a godwyd yn yr adroddiad gael y gweithlu addysg ac ansawdd addysgu a dysgu yng Nghymru a bod mynd i’r afael â nhw yn golygu bod angen ymdriniaeth ar y cyd, sy’n pontio’r holl system, ac yn cynnwys ystod o bartneriaid.
Fel y rheoleiddir proffesiynol, ein rôl ni yw diogelu dysgwyr, a chynnal hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg. Byddwn yn parhau i roi tystiolaeth a mewnwelediadau i hysbysu trafodaethau cenedlaethol ar sut i gefnogi proffesiwn diogel, cynaliadwy sy'n cael ei barchu. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi rhoi unrhyw argymhellion sy'n cael eu gweithredu ar waith, os ydynt o fewn ein cylch gorchwyl.
Mae mwy o wybodaeth am y dystiolaeth a gyflwynwyd gennym fel rhan o'r ymholiad ar ein gwefan.
