CGA / EWC

About us banner
Wythnos Addysg Oedolion 2026: Pam mae dysgu gydol oes yn bwysig – i ddysgwyr ac addysgwyr fel ei gilydd
Wythnos Addysg Oedolion 2026: Pam mae dysgu gydol oes yn bwysig – i ddysgwyr ac addysgwyr fel ei gilydd

Wrth i Wythnos Addysg Oedolion ddechrau, rydym yn dathlu gwerth dysgu gydol oes a chydnabod y gweithwyr addysg proffesiynol sy’n helpu oedolion ledled Cymru i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder a chyflawni eu nodau.

Mae Wythnos Addysg Oedolion (21–27 Medi) yn ymgyrch genedlaethol sy’n dathlu gwerth dysgu gydol oes a’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae’n ei wneud i unigolion, teuluoedd, gweithleoedd, a chymunedau. Mae’r ymgyrch eleni yn ein hannog ni oll i gofio nad yw hi fyth yn rhy hwyr dysgu rhywbeth newydd. Mae’r ymgyrch eleni yn ein hannog ni oll i gofio nad yw hi fyth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd.

Yng Nghyngor y Gweithlu Addysg (CGA), rydym yn falch o gydnabod y gweithwyr addysg proffesiynol ymroddedig sy’n cefnogi dysgwyr sy’n oedolion ar draws Cymru, bob dydd.

P’un a ydyn nhw’n helpu rhywun i ennill sgiliau hanfodol, datblygu hyder, newid gyrfa, gwella’u lles, neu gyflawni uchelgais y bu ganddynt ers tro, mae ymarferwyr sy’n gweithio mewn addysg bellach, dysgu’n seiliedig ar waith, ac addysg oedolion yn chwarae rhan hanfodol mewn trawsnewid bywyd trwy addysg.

Cefnogi dysgu ym mhob cam bywyd

Nid yw dysgu’n dod i ben pan fyddwn yn gadael yr ysgol, nac ychwaith addysgu.

Ar draws Cymru, mae ymarferwyr addysg cofrestredig yn cefnogi oedolion o bob cefndir i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd. Mae eu hymrwymiad yn helpu i sicrhau bod oedolion yn cael cyfleoedd i barhau i ddysgu trwy gydol eu bywyd.

Mae dysgu proffesiynol yn bwysig hefyd

Mae dysgu gydol oes yr un mor bwysig i addysgwyr ag ydyw i ddysgwyr.

Trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), mae miloedd o ymarferwyr addysg ar draws Cymru yn cofnodi eu dysgu proffesiynol eu hunain, yn myfyrio arno ac yn ei gynllunio, gan helpu iddynt barhau i ddatblygu trwy gydol eu gyrfa a darparu’r cymorth gorau posibl i’w myfyrwyr.

Ochr yn ochr â’r PDP, darparwn amrywiaeth o adnoddau am ddim a luniwyd i gefnogi twf proffesiynol ac arfer myfyriol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Gyda’i gilydd, mae’r adnoddau hyn yn helpu cofrestreion i barhau i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hyder, gan sicrhau eu bod yn gallu cynnig y cymorth gorau posibl i ddysgwyr ledled Cymru.

Allech chi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr sy’n oedolion?

Mae gweithio gyda dysgwyr sy’n oedolion yn yrfa fuddiol sy’n newid bywydau bob dydd.

P’un a ydych chi’n cefnogi rhywun i ennill cymwysterau newydd, datblygu sgiliau hanfodol neu gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa, cewch y cyfle i wneud gwahaniaeth sy’n para.

Os ydych chi’n ystyried gyrfa mewn addysg bellach, dysgu’n seiliedig ar waith neu mewn lleoliad addysg arall, ewch i Addysgwyr Cymru i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael a darganfod ble y gallai gyrfa mewn addysg fynd â chi.