CGA / EWC

About us banner
Keith Towler: Gwaith ieuenctid yng Nghymru yn ymateb i her clo COVID-19
Keith Towler: Gwaith ieuenctid yng Nghymru yn ymateb i her clo COVID-19

Keith Towler: Gwaith ieuenctid yng Nghymru yn ymgymryd â her clo COVID-19

Keith Towler squareRydyn ni yng nghanol argyfwng o ran iechyd y cyhoedd ac mae ein dibyniaeth ar ein gilydd yn hollbwysig er mwyn gallu ‘gostwng y gromlin’, lleihau’r baich ar ein GIG gwych, ac achub bywydau yn y pen draw. Ar yr adeg hon, mae ymateb gwaith ieuenctid ledled Cymru wedi dangos ei fod yn greadigol, yn ymroddgar ac yn ymarferol yn ei ddulliau. Oherwydd bod prosiectau a chanolfannau ieuenctid wedi cau yn sgil y cyfyngiadau symud, mae gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid yn cefnogi ysgolion sydd wedi’u haddasu at ddibenion gwahanol, yn dosbarthu prydau ysgol am ddim, yn dyfeisio dulliau digidol o gysylltu â phobl ifanc ac ymateb i’w pryderon, eu hanghenion a’u ceisiadau am gymorth.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfeiriad clir iawn yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. I ddechrau, y neges syml yw aros gartref, mynd allan i nôl bwyd, am resymau iechyd, i ymgymryd ag un math o ymarfer corff y dydd neu i weithio os yw hynny’n hanfodol, ac at y dibenion hynny’n unig. Pan fyddwch allan, mae’n rhaid i chi gadw pellter cymdeithasol. Mae hon yn adeg anodd a heriol i bawb.

Bu tipyn go lew o sylw yn y cyfryngau i effaith hyn oll ar blant, ar deuluoedd, ar bobl hŷn ac ar bobl agored i niwed. Ond beth am yr effaith ar ein pobl ifanc? Y bobl ifanc y mae gwaith ieuenctid yno i’w gwasanaethu. Sut mae’n teimlo iddyn nhw? Mae bod yn agored i niwed yn gallu cymryd sawl ffurf ac mae’n rhaid i mi gyfaddef i mi feddwl am y bobl ifanc hynny sy’n ddigartref, y rhai hynny y mae eu llesiant yn dibynnu ar ryngweithio cymdeithasol a chysylltiad gydag oedolyn y gallan nhw ymddiried ynddo, y rhai hynny nad yw eu cartref yn lle diogel i fod, y rhai hynny sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, y rhai hynny sy’n dioddef gorbryder a straen, y rhai hynny sydd mewn sefydliadau diogel a’r rhai hynny sy’n wynebu trafferthion yn talu’r rhent a chadw dau ben llinyn ynghyd.

Mae gwaith ieuenctid, wrth gwrs, yn dangos ei werth unwaith eto ac yn ymgymryd â'r her o gefnogi llawer o'r bobl ifanc hyn yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Rwy’ wedi clywed bod rhai awdurdodau lleol wedi penderfynu dros eu hunain bod eu gweithwyr ieuenctid yn weithwyr allweddol ond yn sicr nid yw hynny’n wir ym mhob rhan o Gymru. Wrth i drefniadau ffyrlo staff gael eu rhoi ar waith gallem weld prinder mawr yn nifer y gweithwyr ieuenctid medrus mae pobl ifanc yn dibynnu arnyn nhw. Mae’r ansicrwydd o amgylch cyllid, yn arbennig ar gyfer y rhai hynny yn y trydydd sector, hefyd yn achos pryder.

Yn fy marn i, dylai gwaith ieuenctid, sy’n cael ei ddarparu gan weithwyr ieuenctid yn y sector gwirfoddol a'r sector a gynhelir, gael ei gydnabod fel gwasanaeth allweddol hanfodol. Mae ei freuder fel sector yn gyferbyniad llwyr i’w werth i bobl ifanc.

Gadewch i mi ddefnyddio’r cyfle hwn i rannu sut mae gwaith ieuenctid yng Nghymru’n gweithio mewn ymateb i COVID-19. Bu i bob awdurdod lleol a’r rhai hynny sy’n gweithio yn y trydydd sector gau eu canolfannau ieuenctid a’u prosiectau erbyn diwedd mis Mawrth. Nid oedd hynny’n golygu bod eu gwaith wedi dod i ben. Mae hynny’n bell o fod yn wir, am fod cyfran fawr o’u gwaith, gan gynnwys eu staff a’u hadnoddau, wedi’u symud i ddulliau cyflawni a chysylltu â phobl ifanc ar-lein. Mae gwerthoedd gwaith ieuenctid yn serennu wrth i gysylltiadau gael eu cynnal â phobl ifanc fel bod modd darparu cymorth, cyngor ac arweiniad. Mae pobl ym maes gwaith ieuenctid wastad wedi siarad am bwysigrwydd y berthynas o ymddiriedaeth sydd ganddyn nhw gyda’u gweithwyr ieuenctid ac yn y cyfnod argyfyngus hwn nawr, mae’r berthynas honno’n eithriadol o werthfawr.

Mae nifer uchel o staff gwaith ieuenctid mewn awdurdodau lleol wedi’u hadleoli i gefnogi’r ysgolion a’r hybiau gofal plant ar eu newydd wedd. Mae’r gwaith hwn yn hollbwysig wrth gwrs ond mae hefyd yn braf clywed bod hyn wedi arwain at sefydlu ac atgyfnerthu perthnasau cadarnhaol rhwng staff ysgolion a staff gwaith ieuenctid, gan gynnwys gwell dealltwriaeth a pharch tuag at y dulliau gwahanol sydd ar waith ym maes addysgu a gwaith ieuenctid fel ei gilydd. Mae’n hyfryd gweld y teulu addysg yn tynnu ynghyd yn ystod yr argyfwng hwn.

Gofynnwyd i weithwyr ieuenctid awdurdodau lleol eraill helpu i ddarparu a dosbarthu prydau ysgol am ddim, a chynnal eu gwaith ar draws gwasanaethau eraill er enghraifft ym maes cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, iechyd, tai a lleoliadau llety.

Yn y trydydd sector, er bod gwir ansicrwydd ynghylch y dyfodol ariannol i rai ar ôl COVID-19, mae enghreifftiau rhagorol o waith gwych yn mynd rhagddo. Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn darparu gwobrau adeiladu a chwisiau Disney
  • KPC Youth yn y Pîl ger Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i annog hwyl a chynnal mentrau lleol
  • Cymorth a dysgu ProMo Cymru ar ddatrysiadau digidol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid yn ei gyfanrwydd
  • MAD Abertawe’n cyflawni ei addewidion i helpu cymunedau mewn angen gyda chymorth ymarferol
  • Sgowtiaid Cymru’n cynnal hwyliau pawb gyda gweithgareddau di-ben-draw i helpu pobl ifanc yn ystod yr adeg anodd hon
  • darpariaeth eiriolaeth a chymorth hanfodol Gwasanaeth Eiriolaeth Cenedlaethol Cymru (NYAS) i bobl ifanc sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal
  • Mess Up The Mess yn ymgysylltu â phobl ifanc drwy gyfrwng theatr ar-lein
  • Academi Cyfryngau Caerdydd yn cynnig gwasanaethau therapiwtig gyda chynghorwyr wedi’u hyfforddi ac asesiadau ar blant sy’n gysylltiedig â’r system cyfiawnder ieuenctid
  • yr Urdd yn darparu gweithgareddau ac adnoddau i bobl ifanc eu mwynhau gartref yn datblygu eu dysgu a’u sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Consortia sefydliadau gwirfoddol gan gynnwys Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Youth Cymru a MAD Abertawe’n cynnig sesiynau galw heibio ar-lein ‘Holi Gweithiwr Ieuenctid’
    llinell gymorth Meic i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ar gael o hyd wrth gwrs, rhwng 8am a hanner nos saith diwrnod yr wythnos yn Gymraeg a Saesneg
  • CWVYS yn dal i weithio’n galed yn cefnogi’r sefydliadau sy’n aelodau ohono drwy ddarparu gwybodaeth ac arweiniad a chynnal cyfarfodydd rhanbarthol.

Ac wrth gwrs, gallwn fynd ymlaen.

Yn ystod cyfarfod Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru - un o’r cyfarfodydd fideo-gynadledda rydyn ni i gyd yn dechrau dod i arfer â nhw - cytunom i atal rhywfaint o’n gwaith dros dro er mwyn canolbwyntio ar ymateb y sector gwaith ieuenctid i COVID-19. Yn absenoldeb gwefan benodol neu borthol gwybodaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru rydym am gynyddu cyrraedd gwybodaeth safonol i ymarferwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae gwaith ar y gweill eisoes ac rydym am ddatblygu adnoddau, pecynnau cymorth, hyfforddiant ac arweiniad fel bod gweithwyr ieuenctid yn gallu hysbysu eu hymdrechion lleol gyda dull gweithredu cenedlaethol yn gefn iddyn nhw.

Gan fod cymaint o weithgarwch cyfathrebu wedi cael ei anelu at blant a theuluoedd hyd yma, mae’r Bwrdd am sicrhau bod ymgysylltiad â phobl ifanc yn digwydd. Mae’n bwysig ein bod yn cyfathrebu â phobl ifanc yn uniongyrchol yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn esbonio’r camau maen nhw’n gallu eu cymryd i’w diogelu eu hunain ac eraill, ac i ymateb i’w pryderon – yn enwedig y rheini sy’n teimlo eu bod ar yr ymylon neu’n agored i niwed. Mae gan y bobl ifanc eu hunain ran i'w chwarae yn yr ymateb i COVID-19. Mae’r bwrdd yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i roi mesurau ar waith i sicrhau ein bod yn clywed lleisiau pobl ifanc ac yn dod o hyd i ffordd o ymateb i’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud.

Un neges fach arall gen i ...

Mae hi wedi bod yn bleser gweld nad yw gwaith ieuenctid wedi colli ei synnwyr o hwyl, a’i fod yn parhau i gydnabod pa mor bwysig yw chwarae, hyd yn oed mewn cyfnod fel hwn. Rydyn ni wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys fideos o weithwyr yn chwarae ‘keepy uppy’ gyda rhôl o bapur toiled, nosweithiau cwis, gweithdai cerddoriaeth a chanu, ymarferion cadw’n heini, syniadau celf a chrefft, a thrin gwallt yn y cartref. Gobeithio y bydd hyn yn parhau am amser hir...

I glywed mwy gan Keith Towler yn ogystal â'r newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn gwaith ieuenctid yng Nghymru, cofrestrwch i dderbyn y Bwletin Gwaith Ieuenctid.

 

Keith Towler

Keith Towler yw cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Bu Keith yn Gomisiynydd Plant Cymru (2008 – 2015) ac mae nawr yn Ymgynghorydd Annibynnol. Mae’n arbenigwr uchel ei barch ar hawliau plant gyda thros 30 mlynedd o brofiad mewn swyddi gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid.