Nid oes unrhyw bapurau safbwynt gyda ni ar hyn o bryd.
Pan fyddwn yn eu cyhoeddi, byddant yn ymddangos yma.
Dewiswch eich iaith
Mae’r rôl yn galw am feddwl annibynnol, cyfraniad adeiladol at drafodaethau strategol, uniondeb ac ymrwymiad cadarn i gydraddoldeb, cynhwysiant a’r Gymraeg. I ddysgu rhagor, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau mai dim ond ymarferwyr cofrestredig sy’n cael eu cyflogi i wneud gwaith sy’n benodol i’w categori cofrestru.
Hwn yw'n clwb llyfrau a chyfnodolion i helpu ein cofrestreion i wneud y mwyaf o’u mynediad am ddim i lyfrgell ymchwil addysg fwyaf y byd, EBSCO. Dysgwch fwy neu tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.
Nid oes unrhyw bapurau safbwynt gyda ni ar hyn o bryd.
Pan fyddwn yn eu cyhoeddi, byddant yn ymddangos yma.
Mae’r ymchwil a luniwn yn helpu i sicrhau bod polisi addysg yng Nghymru wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae rhywfaint o’r ymchwil wedi’i wneud gennym ni, ond rydym hefyd yn comisiynu gwaith ymchwil.
Mae’r papur, a ysgrifennwyd gan yr Athro Carol Campbell a Maeva Ceau o Ontario Institute for Studies in Education, Prifysgol Toronto, yn cynnig adolygiad manwl sy’n archwilio cysyniad ymarfer myfyriol, ei effeithiau arwyddocaol ar addysg, a’r arferion arwain sy’n ei gefnogi a’i annog. Hefyd, mae’n amlygu polisïau, fframweithiau a chyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n meithrin ymarfer myfyriol, gyda ffocws ar system addysg Cymru.
Rhwng 2020 a 2024, fe wnaethom gwblhau cyfres o brosiectau ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi a gwella proffesiynoldeb y gweithlu ôl-16 yng Nghymru.
Yn 2019, cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o dystiolaeth am amrywiaeth ethnig y gweithlu ysgolion yng Nghymru.
Dechreuon ni adolygu'r data yn gysylltiedig ag amrywiaeth y gweithlu ysgolion yng Nghymru ac i ba raddau yr oedd yn cynrychioli poblogaeth ehangach y wlad. Hefyd, fe wnaethom adolygu enghreifftiau o arfer gorau ynghylch camau y gellid eu cymryd i helpu gwella amrywiaeth ethnig.
Crynhowyd y wybodaeth a gasglwyd mewn adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2020, oedd yn amlinellu syniadau polisi ehangach i Llywodraeth Cymru eu hystyried.
Gan adeiladu ar y canfyddiadau hyn fe wnaethom ymgysylltu â rhanddeiliaid yn helaeth, gan gynnwys cymunedau amrywiol o bob cwr o Gymru, wnaeth hysbysu adroddiad arall gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yng Ngorffennaf 2021, oedd yn amlinellu ein hargymhellion terfynnol ar gynyddu amrywiaeth ethnig y gweithlu.
Yn 2019, fe'n comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil yn archwilio modelau dysgu proffesiynol. Roedd ein hadroddiad yn archwilio tystiolaeth o ran defnyddio cyfuniad dysgu proffesiynol, ac yn ystyried sut byddai'r ymdriniaethau hyn yn cael eu defnyddio i wneud y mwyaf o gyflwyno y Cwricwlwm i Gymru, a helpu ymarferwyr wneud y mwyaf o'u potensial.
Yn 2018, comisiynwyd CGA i ganolbwyntio ar y cyfuniad dysgu proffesiynol. Mae’r papur hwn yn un o’r rhain ac mae’n defnyddio adolygiad o lenyddiaeth a chyfweliadau â phobl allweddol i fynd i’r afael â’r ffyrdd y gallai’r ‘Cyfuniad Dysgu Proffesiynol’ alluogi’r model newydd i gael ei weithredu’n effeithiol. Mae hefyd yn ystyried pa amodau proffesiynol y bydd angen iddynt fod ar waith er mwyn i ymagwedd gyfunol at y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol weithredu’n effeithiol yn ymarferol.
Mae CGA wedi comisiynu pedwar adroddiad sy’n archwilio strategaethau cymell a gynlluniwyd i wella recriwtio a chadw athrawon o safon uchel.
Strategaethau Cymell: Adroddiad Synoptig
Cymhelliadau Hyfforddi Athrawon yng Nghymru – Cyd-destun Polisi Rhyngwladol
Cymharu Cymhelliadau Hyfforddi Athrawon yng Nghymru a Lloegr
Safonau polisi gwasanaeth
Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2021-22
Hysbysiad Preifatrwydd
Datganiad Caffael
Datganiad CGA ar Adran 6 – y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2021-22
Ar y dudalen hon, fe welwch y polisïau a’r gweithdrefnau sy’n rheoli sut rydym ni’n gweithredu ac yn bodloni ein gofynion rheoleiddio.
Cod Ymddygiad ac Arfer Gorau ar Gyfer Aelodau
Rheolau Sefydlog
System ar Gyfer Ethol Cadeirydd y Cyngor
Adroddiad ar y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau 2025
Mae’r uwch dîm rheoli yn gweithio gyda’r Cyngor pan fydd yn datblygu strategaeth ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Nhw sy’n gyfrifol am weithgareddau’r sefydliad o ddydd i ddydd ac am ddarparu arweiniad corfforaethol.

Mae Lisa yn gyfrifol am arwain a rhoi cyfeiriad strategol i’r CGA, gan weithredu yn unol â’i gyfrifoldebau statudol fel y’u nodir yn Neddf Addysg (Cymru) 2014.
Mae’n ymrwymedig i weithio gyda chofrestreion a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, undebau llafur/cymdeithasau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru.
Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyfrifyddu, hi sy’n gyfrifol am sicrhau bod CGA yn cynnig gwerth am arian i gofrestreion ac yn defnyddio’i adnoddau yn effeithlon.
Ymunodd Lisa â CGA yn 2018, yn dilyn ei rôl flaenorol fel Pennaeth Cynllunio a Dadansoddi Ariannol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae David yn gyfrifol am gynnal a datblygu Cofrestr Ymarferwyr Addysg Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ein swyddogaeth priodoldeb i ymarfer, ymchwilio i a gwrando achosion a atgyfeirir i CGA, yn ogystal â dadansoddi ac adrodd data, a llywodraethu data.
Ymunodd David â CGA ym mis Tachwedd 2020, gan weithio fel Pennaeth Priodoldeb i Ymarfer i ddechrau, cyn symud i'w swydd bresennol ym mis Medi 2023. Swydd flaenorol David oedd fel uwch swyddog undeb llafur gydag undeb addysgu.
Mae David yn Ddirprwy Brif Weithredwr.

Bethan sy’n gyfrifol am achredu rhaglenni proffesiynol a hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiwn addysg, datblygiad proffesiynol, cynllunio a chyfathrebu strategol, a datblygu polisi.
Ymunodd Bethan â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngAC) yn 2000, a bu'n Rheolwr Tîm Datblygiad Proffesiynol a Chyllido o 2006, cyn symud i’w swydd bresennol yn 2018.
Christine sy’n gyfrifol am gynllunio, monitro ac adrodd ar faterion ariannol, pob mater sy’n ymwneud â llywodraethu ariannol, gan gynnwys cynnal archwiliadau, adnoddau dynol, a chymorth corfforaethol a systemau gwybodaeth.
Penodwyd Christine fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol o 2 Chwefror 2026, yn dilyn ei rôl flaenorol fel Pennaeth Cyllid a Masnachol gydag Ymholiad COVID-19.