CGA / EWC

About us banner
Recriwtio a dargadw: tueddiadau, heriau a llwybrau polisi
Recriwtio a dargadw: tueddiadau, heriau a llwybrau polisi

10:00-12:00, 13 Tachwedd 2025

Yn y digwyddiad yma byddwn yn edrych ar recriwtio a dargadw yng ngweithlu addysg Cymru.

Gan ddefnyddio ein mynediad unigryw at y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg, byddwn yn edrych ar y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn i recriwtio athrawon, a'r categorïau cofrestru eraill, yn ogystal â'r data dargadw arall. Byddwn hefyd yn clywed gan ein tîm polisi, fydd yn cymharu recriwtio a dargadw mewn gwledydd eraill.

Ar ôl y cyflwyniad, byddwn yn croesawu panel o arbenigwyr fydd yn rhoi mewnwelediadau i recriwtio a dargadw i'w lleoliadau, ac yn rhoi eu persbectif unigryw ar y materion a drafodwyd.

Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda sesiwn cwestiwn ac ateb, gan roi'r cyfle i chi i holi cwestiynau i'r panel o arbenigwyr.

Mae'r digwyddiad yma ar gyfer arweinwyr addysg, gwneuthurwyr polisi, ac uwch staff, a'r rheiny sydd am ddeall y darlun diweddaraf o ran recriwtio a dargadw, a chael mewnwelediadau ymarferol i hysbysu eith gwaith a'u cynllunio yn y dyfodol.

Cadwch eich lle am ddim nawr.