CGA / EWC

About us banner
Siarad yn Broffesiynol 2026: Archwilio ymddygiad dysgwyr a grym gweithgaredd corfforol
Siarad yn Broffesiynol 2026: Archwilio ymddygiad dysgwyr a grym gweithgaredd corfforol

Dydd Mercher 21 Ionawr 2026, 16:00–17:30, Zoom

Ym mhob lleoliad, mae ymddygiad yn bwnc sy'n gyson yn profi gwydnwch a chreadigrwydd addysgwyr. Mae aflonyddu lefel isel, rheoleiddio emosiynol, datgyweddu, a'r pwysau cynyddol ar les dysgwyr wedi eu hadrodd yn eang.

Yn Siarad yn Broffesiynol 2026, byddwn yn cael cwmni'r Athro Kelly Mackintosh o Brifysgol Abertawe, fydd yn edrych ar yr her yma, a rôl posibl gweithgaredd corfforol ar gefnogi ymddygiad cadarnhaol a lles.

Bydd yr Athro Mackintosh, arbenigwr mewn gweithgaredd corffol ar gyfer iechyd, yn:

  • edrych ar y dystiolaeth sy'n cysylltu gweithgaredd corfforol â gwell ymddygiad a rheoleiddio emosiynol
  • rhannu esiamplau ymarferol o sut gall cofrestreion ymgorffori symud i mewn i'r diwrnod
  • cynnig syniadau newydd i greu amgylcheddau dysgu tawelach, mwy cynhwysfawr, ac sy'n ymgysylltu dysgwyr

Ar ôl y cyflwyniad, bydd gan y rhai sy'n bresennol gyfle i rannu eu profiadau eu hun, a holi cwestiynau i'r Athro Mackintosh, mewn sesiwn holi ac ateb byw.

P'un a eich bod yn gweithio'n uniongyrchol gyda dysgwyr a phobl ifanc, neu mewn rôl gefnogol neu bolisi, bydd y sesiwn yn rhoi persbectif gwerthfawr ar sut gall gweithgaredd corfforol gyfrannu at ymddygiad cadarnhaol a lles mewn pob math o leoliad addysgol.

Mae'n addo bod yn drafodaeth ddiddorol sy'n cyfuno ymchwil a pherthnasedd ymarferol o'r byd go-iawn. Peidiwch â cholli allan, mynnwch eich tocyn am ddim nawr.

Ynghylch y siaradwr

Mae'r Athro Kelly Mackintosh yn arbenigwr mewn gweithgarwch corfforol ar gyfer iechyd, gyda ffocws arbennig ar sut gall ysgolion helpu pobl ifanc greu arferion actif ac iach am oes.

Yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, mae ei hymchwil yn archwilio sut gall gweithgaredd corfforol ddylanwadu ar ymddygiad, lles, a dysgu, a sut gall newidiadau syml, yn seiliedig ar dystiolaeth o fewn sefydliadau addysg wneud gwahaniaeth sy'n para.

Mae'r Athro Mackintosh wedi arwain a chyfrannu at nifer o brosiectau arloesol, gan gynnwys Prosiect  Iechyd, Gweithgaredd, a Maeth: Addysgu! (CHANGE!), oedd â'r bwriad o wella lles plant oed ysgol trwy well gweithgaredd corfforol ac ymarweddau bwyta. Mae ei gwaith hefyd wedi edrych ar ymdriniaethau creadigol o ran ymgysylltu dysgwyr, o ymyriadau ar ôl ysgol sy'n cyfuno gemau fideo actif gyda hyfforddiant aml-sgiliau, i raglenni dwysedd uchel ethos milwrol wedi eu creu i hybu ysgogiad a hyder.

Gan gydweithio ar draws disgyblaethau, mae hi wedi gweithio gyda gwyddonwyr cyfrifiadurol, peirianwyr, a gweithwyr iechyd proffesiynol, i ddatblygu ffyrdd newydd o annog symud, gan gynnwys technolegau rhannu amcanion cymdeithasol mewn prosiect o'r enw 'Mission Possible', ac ymyriadau yn seiliedig ar weithgaredd corffol  i gefnogi pobl ifanc gyda chyflyrau iechyd hirdymor fel ffibrosis cystig, ac asma.

Mae'r Athro Mackintosh wedi ennill nifer o wobrau, ac mae'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei chyfraniadau i ymchwil gweithgaredd corfforol, ac yn ymchwilydd yr 1% uchaf yn ei maes.

Mae ei hymchwil yn parhau i amlygu rôl hanfodol gweithgaredd corfforol yn gwella iechyd, yn ogystal â chefnogi ymddygiad, canolbwyntio, a lles cyffredinol plant a phobl ifanc.