Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd
Adnewyddu ffioedd i gyflogwyr
Fel cyflogwr, mae gyda chi gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau eich bod ond yn cyflogi unigolion sydd wedi cofrestru yn y categori cywir ar gyfer y gwaith y maent yn ei wneud.
Gwiriwch statws cofrestru eich staff nawr drwy ddefnyddio eich mynediad ar-lein i'r Gofrestr.
Astudiaeth Priodoldeb i Ymarfer: ffiniau proffesiynol
Gall cyswllt corfforol fod yn angenrheidiol weithiau, ond mae'n rhaid iddo fod yn briodol a chymesur bob tro. Yn ein hastudiaeth achos diweddaraf, rydym yn edrych ar esiampl lle cafodd cofrestrai eu gwahardd yn dilyn cyswllt corfforol amhriodol gyda dysgwr, ac yn cynnig gwersi ymarferol y dylai cofrestreion eu dysgu o hyn.
Diweddariadau'r Cyngor
Recriwtio ar agor ar gyfer aelodau newydd i'n Cyngor
Rydym yn rheoleiddio gweithlu mawr ac amrywiol sy'n gwasanaethu dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a chymunedau ledled Cymru. I wneud y rôl yma yn effeithiol, mae'n bwysig bod ein Cyngor yn buddio o ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau. Mae'r rôl yn galw am feddwl annibynnol, cyfraniad cadarnhaol at drafodaethau strategol, hygrededd, ac ymrwymiad cryf at gydraddoldeb, cynhwysiant, a'r Gymraeg. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Mae ceisiadau'n cau am 16:00 ar 18 Chwefror.
Ceisio barn ar ein Cynllun Strategol ar gyfer 2026-29.
Mae'r Cynllun Strategol drafft yn gosod ein blaenoriaethau am y tair blynedd nesaf, ac mae pedwar amcan allweddol yn sylfaen iddo. Mae'n gosod sut yr ydym yn bwriadu cyflawni ein swyddogaethau statudol craidd.
Rydym yn awyddus i glywed gan nifer o unigolion, gan gynnwys y rheiny o gefndiroedd amrywiol, rhieni/gwarcheidwaid, a phartneriaid o bob cwr o'r byd addysg a rheoleiddio.
Gallwch ddarllen ein y cynllun drafft, ac ymateb iddo, ar ein gwefan. Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben am 12:00 ddydd Gwener 13 Mawrth 2026.
Cyfarfod nesaf y Cyngor
Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn swyddfeydd CGA, ddydd Iau 19 Mawrth. Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd ddod i arsylwi. Mae gwybodaeth am gyfarfodydd y gorffennol, a gallwch gofrestru eich diddordeb mewn arsylwi ar ein tudalen cyfarfodydd y Cyngor.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Defnyddio'r PDP i gefnogi eich cyflogeion
Rydym yn parhau i weithio gyda nifer o sefydliadau, gan ddatblygu templedi wedi eu teilwra yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) sy'n cefnogi dysgu proffesiynol a myfyrio yn eu timau.
Gwybodaeth am sut gall y PDP helpu a chefnogi eich sefydliad.
MAGI
Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid Torfaen wnaeth adnewyddu eu Marc Ansawdd efydd yn ddiweddar.
Mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn wobr ar gyfer sefydliadau ieuenctid sy'n cydnabod gwella safonau a dathlu rhagoriaeth o ran darpariaeth gwaith ieuenctid. Ewch i'r wefan i ddysgu mwy am MAGI.
Hysbysu polisi
Recriwtio a dargadw: tueddiadau, heriau a llwybrau polisi
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom groesawu panel o arbenigwyr addysg i rannu eu barn unigryw a gonest ar recriwtio a dargadw yng Nghymru, ynghyd â'n data a'n hymchwil polisi ni. Cafodd y digwyddiad ei recordio, ac mae bellach ar gael ar ein sianel YouTube i chi wylio yn ôl.
Ymateb i ymgynghoriad
Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu, Addysgu ac Arweinyddiaeth.
Rhag ofn i chi ei fethu
Siarad yn Broffesiynol 2026
Wnaethoch chi fethu ein digwyddiad Siarad yn Broffesiyniol ym mis Ionawr 2026? Daeth yr Athro Kelly Mackintosh i archwilio ymddygiad dysgwyr a grym gweithgaredd corfforol. Mae fideo o'r digwyddiad bellach ar gael i'w wylio yn ôl ar ein sianel Youtube.
Angen hyfforddiant?
Gallwn ddarparu hyfforddiant yn bersonol ar nifer o bynciau, gan gynnwys ein rôl, y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, y PDP, a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol. Gallwn hefyd ddod â stondin i'ch cynhadledd neu ddigwyddiad, fel bod pobl yn gallu dod i siarad gyda ni'n uniongyrchol.
Llenwch y ffurflen ar y dudalen, ac fe wnawn ni gysylltu gyda chi.
