CGA / EWC

about banner
Ymgynghoriad ar Gynllun Strategol drafft Cyngor y Gweithlu Addysg 2026-29
Ymgynghoriad ar Gynllun Strategol drafft Cyngor y Gweithlu Addysg 2024-27

Mae'r ymgynghoriad yma'n ceisio barn ar ein Cynllun Strategol drafft ar gyfer y tair blynedd rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2029. Bydd unrhyw ymatebion yn hysbysu’r cynllun terfynol.

Bydd yr ymgynghoriad o ddiddordeb i gofrestreion, aelodau'r cyhoedd, a rhanddeiliaid addysg. Hoffem glywed gan unigolion a sefydliadau. Rydym yn awyddus i glywed gan amrywiaeth o bobl, gan gynnwys y rheiny o gefndiroedd amrywiol.

Rydym wedi cynnwys nifer o gwestiynau ynghylch y cynllun drafft, yr hoffem i chi eu hateb. Wrth ymateb, ystyriwch y cynllun drafft  ynghyd â chylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg, fel nodwyd yn Neddf Addysg (Cymru) 2014

Llenwch y ffurflen isod a'i chyflwyno erbyn 12:00 ar 13 Mawrth 2026. Os oes angen dogfen mewn fformat gwahanol i'ch galluogi i ymateb cysylltwch â ni.

<b>Pa gategori sy'n fwyaf addas i chi?</b>
Please choose one of the options
Invalid Input
Invalid Input
Invalid Input
Invalid Input
Invalid Input
  1. Beth yw eich barn ar y blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun strategol drafft 2026-29?
Invalid Input
  1. Oes unrhyw amcanion ychwanegol y dylid eu cynnig o fewn y cynllun? Esboniwch beth yw'r rhain, a pham eu bod yn bwysig.
Invalid Input
  1. Pa ffactorau allanol allai effeithio ar weithredu’r amcanion a amlinellir yn y cynllun, a sut?
Invalid Input
  1. Fydd y strategaeth yr ydym wedi ei hamlinellu yn cael unrhyw effaith benodol (cadarnhaol neu negyddol) ar grwpiau penodol gyda nodweddion gwarchodedig*?

    * Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw nodwedd warchodedig (oed, anabledd, statws o ran ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol).
Invalid Input
  1. 5. Fydd y strategaeth yn cael unrhyw effaith benodol (cadarnhaol neu negyddol) ar y Gymraeg, yn arbennig mewn perthynas â:
    1. cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
    2. trin y Gymraeg heb fod yn llai ffafriol na'r Saesneg

Sut y gellid gwella unrhyw effeithiau cadarnhaol, neu liniaru effeithiau negyddol?

Invalid Input
<b>Rhowch groes yn y blwch os hoffech i'ch ymateb fod yn gyfrinachol </b>
Invalid Input
<b>Rhowch groes yn y blwch os ydych yn hapus i ni gysylltu â chi am eich ymateb</b>
Invalid Input

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad nad ydynt yn gyfrinachol ar ein gwefan. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion cyn cyhoeddi fersiwn terfynol o'r cynllun.

Sut fyddwn ni'n prosesu eich gwybodaeth?

Eich preifatrwydd yw ein blaenoriaeth. Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth yn deg, yn gyfreithlon ac yn ddidwyll, yn ôl gofynion Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio mwy.