CGA / EWC

About us banner
Mewnwelediadau i ymennydd y glasoed: goblygiadau ar gyfer iechyd, addysg, a pholisi cymdeithasol gyda Ronald E. Dahl
Mewnwelediadau i ymennydd y glasoed: goblygiadau ar gyfer iechyd, addysg, a pholisi cymdeithasol gyda Ronald E. Dahl

rondahl pic 1Ym mis Ebrill fe wnaethom ni groesawu pediatregydd, gwyddonydd datblygiadol ac Athro Nodedig o fri o Brifysgol Berkeley Califfornia, Ronald E. Dahl, i gynnal digwyddiad yn crynhoi’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn sgil astudiaeth wyddonol ar ddatblygiad y glasoed, gyda phwyslais ar y goblygiadau ar gyfer addysg, iechyd a pholisïau cymdeithasol yn rhychwantu ail ddegawd bywyd.

Wrth i ni ddechrau dod i ddeall sut mae plastigedd yr ymennydd cynnar yn creu ffenestri unigryw o gyfle ar gyfer dysgu a datblygu yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf mewn bywyd, mae tystiolaeth gynyddol bod niwroblastigedd yn parhau ymhell i mewn i gyfnod y glasoed. Gan ddechrau oddeutu 10 oed, mae’n ymddangos bod cyfnod sensitif ar gyfer dysgu cymdeithasol ac emosiynol sy’n berthnasol i ddatblygu hunaniaeth.

Mae dealltwriaeth gynyddol o’r ffordd y gall y newidiadau datblygiadol hyn yn y glasoed ddarparu mewnwelediadau gweithredadwy i ni sy’n gallu llywio arferion a pholisïau ar gyfer cefnogi ein hieuenctid, a soniwyd am hyn mewn adroddiad gan Academïau Cenedlaethol y Gwyddorau, Peirianneg, a Meddygaeth yn yr Unol Daleithiau yn 2019. Crynhodd y digwyddiad agweddau allweddol ar yr ymchwil hon ac yn gosod yr olygfa ar gyfer trafodaeth grŵp am y ffordd y gall y mewnwelediadau gwyddonol hyn lywio newidiadau pragmataidd sy’n berthnasol i hyrwyddo addysg effeithiol, lles emosiynol a llwyddiant economaidd a chymdeithasol.

Cefndir y siaradwr

Mae Ron Dahl yn bediatregydd a gwyddonydd datblygiadol gyda hanes hir o ymchwil tîm rhyngddisgyblaethol gyda’r nod o wella bywydau plant a’r glasoed. Mae ei ymchwil wedi amrywio o astudiaethau sylfaenol ym maes datblygiad niwrofiolegol a seicolegol, astudiaethau clinigol mewn pediatreg a seiciatreg plant, i ystyried y cyd-destunau cymdeithasol, teuluol a diwylliannol sy’n llywio datblygiad niwroymddygiad. Mae wedi cyhoeddi dros 300 o erthyglau gwyddonol ym meysydd datblygiad plant a’r glasoed, iechyd ymddygiadol/emosiynol ymysg ieuenctid, cwsg a’i anhwylderau ymysg ieuenctid, datblygiad ymennydd y glasoed, a goblygiadau iechyd cyhoeddus/polisi’r gwaith hwn.
Adeg y digwyddiad, roedd Ron yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Datblygiad Dynol, ac Athro Nodedig, yn Ysgol Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Berkeley Califfornia. Roedd yn Gyfarwyddwr Sylfaenol Canolfan y Glasoed Datblygiadol, canolfan ymchwil drawsddisgyblaethol a seiliwyd ar y gydnabyddiaeth bod y glasoed yn cynrychioli cyfnod aeddfedu o gyfleoedd mawr i gael effaith gadarnhaol ar iechyd, lles, a llwyddiant cymdeithasol ac economaidd.