CGA / EWC

About us banner
Siarad yn Broffesiynol 2019 gyda Athro Andy Hargreaves
Siarad yn Broffesiynol 2019 gyda Athro Andy Hargreaves

andy hargreavesCynhaliodd Cyngor y Gweithlu Addysg, mewn partnerniaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe, ei bedwaredd ddarlith flynyddol, Siarad yn Broffesiynol, ar nos Lun, 16 Medi 2019 yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Cawsom y fraint o groesawu'r Athro Andy Hargreaves, addysgwr uchel ei barch, i roi darlith ynghylch thema Tegwch, Cynhwysiad a Hunaniaeth: yr her mawr nesaf ar gyfer newid addysgol.

Ynglŷn â’i ddarlith, dwedodd Andy Hargreaves: “Rydym yn symud y tu hwnt i oes sydd wedi’i diffinio gan gyflawniad ac ymdrech yn unig, i un sy’n mynd i’r afael ag ymgysylltiad, hunaniaeth a lles.

“Mae ymgysylltiad yn ymwneud â mwy na pherthnasedd, technoleg a hwyl. Mae’n ymwneud ag adnabod eich myfyrwyr, ymgysylltu â’u diddordebau a’u cyflwyno i rai newydd.”

Mae Andy'n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Ottawa ac yn Athro Ymchwil yn Ysgol Addysg Lynch yng Ngholeg Boston. Ac yntau'n hyrwyddo proffesiwn addysg cryf a newid addysgol cadarnhaol mae Andy wedi derbyn sawl acolâd mawreddog."

Yn ymuno ag Andy oedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC a chwaraedd rhan mewn sesiwn holi ac ateb a gyflwynwyd gan newyddiadurwr y BBC, Catrin Haf Jones.

Lawrlwytho cyflwyniad PwyntPŵer  Andy Hargreaves.