CGA / EWC

About us banner
Siarad yn Broffesiynol 2021 gyda Pasi Sahlberg: Tyfu i Fyny yn Ddigidol
Siarad yn Broffesiynol 2021 gyda Pasi Sahlberg: Tyfu i Fyny yn Ddigidol

Tyfu i Fyny yn Ddigidol

Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2021

Nid yw plant fel yr oedden nhw o’r blaen, ac mae’r pandemig wedi amlygu hyn. Un arsylwad cyffredin yw pa mor gyflym mae plant yn dysgu i lywio trwy fyd y cyfryngau a thechnoleg er mwyn darganfod eu ffordd ymlaen. Mae plant hefyd wedi dysgu i fod yn fwy dibynnol ar eu dyfeisiau. Ond beth ydym yn ei wybod am sut mae hyn wedi eu newid? A sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ddysgu?

Yn narlith 2021, archwiliodd yr Athro Pasi Sahlberg barn addysgwyr am blant, technolegau digidol, iechyd a dysgu. Cafodd dros 600 o fynychwyr eu gwahodd i ystyried sut gallwn helpu pobl ifanc i bywydau digidol hapusach, mwy diogel a mwy cyfrifol. Yna, cawsant gyfle i ofyn cwestiynau am bynciau llosg mewn sesiwn holi ac ateb hyd 30 munud.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar y cyd ag Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe, yn gyfle dysgu gwerthfawr i'r rheiny sy'n gweithio ym myd addysg. Roedd yn arbennig o ddefnyddiol i'r rheiny sydd â chyfrifoldeb penodol dros hyrwyddo iechyd a lles dysgwyr.

Gweld sleidiau'r cyflwyniad

Beth yw eich barn chi am y pwynsiau sy'n codi yn y ddarlith? Rydym ni wedi gweithio gyda Pasi Sahlberg i ddatblygu ymarfer myfyrio pwrpasol i chi. I'w gyrchu, mewngofnodwch i'ch Pasbort Dysgu Proffesiynol ac ewch i'ch Templedi Dysgu Proffesiynol. 

 

Digwyddiadau blaenorol