16:00 ar 9 Mai 2024
P'un a eich bod yn newydd i'r gweithlu addysg, neu wedi'ch cofrestru ers amser maith, bwriad y weminar yw rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi am ein rôl a'n cylch gwaith, yn ogystal â'r gwasanaethau ry'n ni'n eu darparu.
Ynghylch y sesiwn
Yn y cyntaf o'n cyfres o weminarau, byddwn yn cynnwys:
- pwy yw CGA, yn cynnwys ein rôl, cylch gwaith, a chyfrifoldebau
- beth yw diben cofrestru a rheoleiddio proffesiynol, a pam ei fod yn bwysig i chi fel addysgwyr
- sut allwch chi wneud y mwyaf o'ch cofrestriad proffeisynol, gan amlygu'r canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol sydd ar gaeli gofrestreion
Bydd sesiwn holi ac ateb, fydd yn rhoi'r cyfle i holi cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn.
Pwy ddylai fynychu
Mae'r weminar yn addas ar gyfer cofrestreion newydd a phresennol sydd am wybod mwy am CGA a'r gwasanaethau ry'n ni'n eu cynnig.