CGA / EWC

About us banner
Newyddion CGA Gorffennaf 2026
Newyddion CGA Gorffennaf 2026

Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd

Astudiaethau achos Priodoldeb i Ymarfer

Mae'r astudiaeth achos PiY diweddaraf yn canolbwyntio ar ymddygiad cyfreithlon, lle rhoddwyd Cerydd i gofrestrai am drosedd berthnasol. Mae dilyn y gyfraith yn hanfodol i arfer da ar gyfer cofrestreion.

Ry'n ni wedi creu'r astudiaethau achos yma i helpu cofrestreion i osgoi peryglon posibl, ac i ddangos beth all ddigwydd pan fo cofrestrai'n torri'r Cod.

Diweddariadau'r Cyngor

Aelodau newydd y Cyngor

Croeso mawr i Anwen Foy a Matthew Owens wnaeth ymuno â'n Cyngor ym mis Ebrill yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus uniongyrchol. Gallwch ddarllen mwy amdanynt a holl aelodau eraill y Cyngor ar ein gwefan.

Cyfarfod nesaf y Cyngor

Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys cofrestreion, ddod i gyfarfod Cyngor CGA i arsylwi. Bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal yn swyddfeydd CGA, ddydd Iau 9 Gorffennaf. Os hoffech This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol

Canllawiau arfer da

Mae gyda ni gyfres o ganllawiau arfer da, sy'n ategu ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, i helpu eich cefnogi chi yn eich gwaith. O gynnal cyfrinachedd i arfer myfyriol, mynd i'r afael â hiliaeth i feithrin perthnasau gwaith cadarnhaol, mae rhywbeth i bawb.

Darllenwch ein canllawiau arfer da ar ein gwefan nawr, a rhannwch nhw gyda'ch cydweithwyr.

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Llongyfarchiadau i wasanaeth ieuenctid Bro Morgannwg a gwasanaeth ieuenctid Powys, sydd wedi adnewyddu eu MAGI efydd yn ddiweddar.

Os ydych chi'n gwybod am rywun sy'n gweithio ym maes gwaith ieuenctid fyddai'n gwneud asesydd da, cyfeiriwch nhw at ein gwefan, lle mae mwy o wybodaeth, a ffurflen gais.

Diweddariadau i'r platfform e-wasanaethau yn dod cyn hir!

Mae platfform e-wasanaethau newydd ar y ffordd, i'w gwneud hi'n haws ac yn gynt i gyflogwyr:

  • wirio statws cofrestru unigolyn yn gywir
  • cefnogi recriwtio diogel
  • cynnal hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg

Cadwch lygad allan yn yr wythnosau nesaf am fwy o wybodaeth.

Chwilio am ffordd newydd i gefnogi eich staff?

Oeddech chi'n gwybod fod y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn gallu cefnogi datblygiad proffesiynol eich cydweithwyr?

Rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i ddatblygu templedi arbennig yn y PDP i gefnogi datblygiad proffesiynol a myfyrio. Mwy o wybodaeth am y PDP a beth gall wneud ar gyfer eich sefydliad. Ac os yw hyn yn swnio fel rhywbeth fyddai'n gweithio i'ch sefydliad chi This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it., fydd yn hapus i'ch helpu chi gychwyn ar eich taith.

Cyfres digwyddiadau'r haf yn parhau

Diolch i bawb ddaeth heibio i'r stondin (neu i'r Ystafell Athrawon, oedd yn boblogaidd iawn) yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn ddiwedd Mai. Cawsom ni wythnos wych yn siarad gyda chynifer ohonoch, gan rannu diweddariadau, a chlywed am eich profiadau. Fe wnaethom fwynhau'r cyfle i siarad gyda phartneriaid, ac fe gawsom ymweliad gan y Gweinidog dros Addysg a'r Iaith Gymraeg newydd, Anna Brychan, wnaeth ddod am sgwrs (a gêm gyflym o Jenga!).

Byddwn ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd yn wythnos gyntaf Awst, lle byddwn ni'n cael cwmni ein Prif Weithredwr, a'n Cyfarwyddwr Rheoleiddio, ddydd Mawrth, Iau, a Gwener. Dewch draw i'r stondin i gael sgwrs.

Ddown ni atoch chi!

Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n cynnal hyfforddiant ac i'n grwpiau cofrestreion a rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraethwyr ysgol, a sefydliadau hyfforddi? Os ydych yn cynllunio eich hyfforddiant ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, llenwch y ffurflen i'n gwahodd ni i ddod atoch chi.

Hysbysu polisi

Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg

Byddwn yn cyhoeddi ein Hystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer 2025-26 ar ein gwefan cyn hir. Mae'n cynnwys y ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth ar bwy sy'n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu'n seiliedig ar waith ng Nghymru, ac mae'n dod o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA.

This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Rhag ofn i chi ei fethu

Cyhoeddi ein hadroddiadau blynyddol

Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ddiwedd mis Gorffennaf ar ein gwefan. Cadwch lygad ar ein gwefannau cymdeithasol a'r wefan.


Oes gyda chi adborth ar y dudalen yma? This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..