CGA / EWC

About us banner
Cyfleoedd, heriau ac ymatebion polisi: Cymraeg a’r gweithlu addysg
Cyfleoedd, heriau ac ymatebion polisi: Cymraeg a’r gweithlu addysg

10 Tachwedd 2026, 10:30-12:30.

Bydd y digwyddiad hwn yn bwrw golwg ar bynciau allweddol sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg o fewn y gweithlu addysg. Byddwn yn trafod lefelau sgiliau, cyflenwad a galw, a’r heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio, cadw, a datblygu ymarferwyr sy’n gallu siarad Cymraeg neu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Trwy fanteisio ar fewnwelediadau unigryw o’n Cofrestr, ystadegau’r gweithlu, a deallusrwydd ehangach am y gweithlu, byddwn yn archwilio capasiti Cymraeg y gweithlu addysg ac yn ystyried p’un a yw tueddiadau presennol y gweithlu yn ddigon i gefnogi nodau uchelgeisiol Cymru ar gyfer y Gymraeg, gan gynnwys Cymraeg 2050.

Hefyd, byddwn yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach, gan archwilio rôl hanfodol y gweithlu mewn cefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ynghyd â thrafodaeth banel sy’n cynnwys unigolion ag arbenigedd ym maes addysg a’r Gymraeg o amrywiol sectorau. Trwy fanteisio ar eu profiad, bydd y panel yn cynnig mewnwelediadau i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu eu meysydd, a’r camau ymarferol y mae eu hangen i gryfhau capasiti Cymraeg ar draws y gweithlu addysg.

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at arweinwyr addysg, llunwyr polisi, ymarferwyr, a rhanddeiliaid eraill.

Archebwch eich tocyn am ddim nawr.