CGA / EWC

About us banner
Digwyddiad briffio rhanddeiliaid Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2023
Digwyddiad briffio rhanddeiliaid Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2023

24 Hydref 2023

Roedd y briffiad hwn yn dod yn sgil cyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg 2023.

Rhoddodd y cyflwynwyr David Browne (Pennaeth Rheoleiddio, CGA), a Nia Griffith (Rheolwr Data), drosolwg o'r ystadegau, gyda ffocws penodol ar y prif dueddiadau a nodwyd. Mae hyn yn cynnwys cyfraddau dargadw'r gweithlu am y tro cyntaf yn 2023.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys data yn dod o Gofrestr o Ymarferwyr Addysg CGA, ac yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i gyfansoddiad y gweithlu addysg, fel oedran, ethnigrwydd, rhyw a chymwysterau.

Yn dilyn y cyflwyniad, roedd cyfle i'r rhai oedd yn bresennol holi cwestiynau ar y data a gyflwynwyd, a sut gall lywio cynllunio'r gweithlu i'r dyfodol.

Cyflwyniad y briffiad

Gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad ar ein sianel youTube.