CGA / EWC

About us banner
Addysg Athrawon: Datblygu Ein Diwylliant Ymchwil
Addysg Athrawon: Datblygu Ein Diwylliant Ymchwil

Cynhaliwyd cynhadledd sector cyfan Cyngor y Gweithlu Addysg, Addysg Athrawon: Datblygu ein Diwylliant Ymchwil ar ddydd Mawrth, 15 Hydref yn Llandudno.

Yn ogystal â phrif siaradwr y gynhadledd, sef yr Athro Cysylltiol Nicole Mockler o Brifysgol Sydney, roedd cydweithwyr o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), CABan a (Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI) a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) hefyd yn bresennol i drafod themâu sy’n gysylltiedig ag ymchwil ac addysg athrawon.

Yn ei phrif araith, soniodd Mockler am botensial ymchwil athrawon i hyrwyddo datblygiad a dysgu proffesiynol athrawon, ac adenewyddu ymarfer proffesiynol.


Yn eu sesiwn, rhoddodd WISERD fewnwelediad i ganfyddiadau’r ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o’r prosiect ‘Dyfodol Llwyddiannus i Bawb’.

 

 

Amlinellodd cydweithwyr o CABAN a CIEREI y prosiectau ymchwil cydweithredol a gynhaliwyd gan sefydliadau addysg uwch (SAU) ac ysgolion yn rhanbarth CaBan a ganolbwyntiodd ar effaith ar ddysgwyr a dysgu.

 

Rhannodd PCDDSU fanylion am eu prosiect Amseroedd Cyfnewidiol, sy’n ceisio archwilio barn y rhai sydd ynghlwm â’r broses newid yn y SAUau ac ysgolion partner mewn perthynas â rolau a chyfrifoldebau proffesiynol.

Digwyddiadau blaenorol