CGA / EWC

About us banner
Grymuso Addysg yng Nghymru: Digwyddiad arbennig CGA
Grymuso Addysg yng Nghymru: Digwyddiad arbennig CGA

Ar ddydd Mawrth, 22 Mai, cynhaliwyd digwyddiad cyhoeddus arbennig yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd, gyda'r Athro John Furlong a'r Athro Jennifer Gore.

John Furlong photo Yr Athro John Furlong yw Athro Emeritws addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac awdur adroddiad 2015 'Addysgu Athrawon Yfory'. Efe hefyd yw Cadeirydd Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon CGA.
Jennifer Gore Mae'r Athro Jennifer Gore yn Athro Addysg ym Mhrifysgol Newcastle, Awstralia ac mae'n ymchwilydd blaenllaw ar ymchwil addysgol yn y wlad.

 Yn ei chyflwyniad bu'r Athro Jennifer Gore yn trafod y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil addysgol, tystiolaeth o effaith ar ddysgwyr a grymuso athrawon i wella arfer proffesiynol a dysgu myfyrwyr.

Gellir lawrlwytho sleidiau'r Athro Gore o'r digwyddiad yma .

 

Digwyddiadau blaenorol