CGA / EWC

About us banner
Glasbrint Parentkind ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol
Glasbrint Parentkind ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol

Meithrin perthnasoedd, ymgysylltu a chyfranogi gyda rhieni/gwarcheidwaid: Glasbrint Parentkind ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol.

Fis Tachwedd 2022, fe wnaethom ni gydweithio gyda'r elusen genedlaethol Parentkind, i gyflwyno digwyddiad helpu gwella perthnasau gyda rhieni, a chynyddu cyfranogiad rhieni.

Kerry-Jane Packman, Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni, Aelodaeth a Gwasanaethau Elusennol Parentkind wnaeth arwain y sesiwn drwy gyflwyno eu Glasbrint newydd ar gyfer Ysgolion Rhiant-Gyfeillgar, cyn sesiwn cwestiwn ac ateb.

Mae Glasbrint ar gyfer Ysgolion Rhiant-Gyfeillgar Parentkind yn offeryn sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn hawdd ei ddefnyddio sy'n hwyluso gwelliannau hirdymor o ran cyfranogiad rhieni. Mae'r model yn ymateb i beth mae rhieni ac athrawon wedi dweud sydd ei angen arnynt, ac yn seiliedig ar ymchwil helaeth. Mae dyluniad y Glasbrint yn creu seilwaith, nid yn unig ar gyfer arweinwyr ysgol, ond ar gyfer pawb sy'n gweithio mewn addysg, i wneud y mwyaf o, ac adeiladu ar gyfraniad rhieni, i greu partneriaethau positif gyda rhieni er budd pob dysgwyr.

Roedd y sesiwn yn cynnwys:

  • trosolwg o'r Glasbrint ar gyfer Ysgolion Rhiant-Gyfeillgar
  • cyd-destun, gwerth a buddion cyfranogiad rhieni
  • ymchwil a thystiolaeth Parentkind
  • syniadau, astudiaethau achos a dysgu
  • cwestiynau

Gallwch wylio’r sesiwn yn ôl ar ein sianel YouTube.